News - Header

fondo

Y Newyddion Diweddaraf

Asset Publisher

News text cy

Dyma'r ffordd hawsaf o gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd yng Nghanolfan Ganser newydd Felindre. Yma, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd y gwaith adeiladu a'r gwaith cymunedol eithriadol.

News
Newsletter
Timelapse Camera
Monitoring Reports
Información (1)
2026-09-15

News

Annwyl drigolion,

Roeddem am roi gwybod i chi fod estyniad i oriau gwaith estynedig Canolfan Ganser Newydd Felindre wedi’i gymeradwyo.  
Mae’r estyniad ar waith tan 30 Medi, 2026 ac mae’n ymwneud â gwaith gosod mecanyddol a thrydanol mewnol penodol yn unig, ynghyd â gweithgareddau gosod mewnol cysylltiedig.

Mae’r estyniad i ganiatâd Adran 61 y prosiect a gymeradwywyd yn flaenorol, felly roeddem am eich sicrhau nad oes unrhyw newidiadau sylweddol i’r mathau o waith sy’n cael ei wneud.

Yr oriau gweithio estynedig cymeradwy yw:
Dydd Llun i ddydd Gwener: 6pm i 8pm
Dydd Sadwrn: 1pm i 4pm

Mae’r oriau ychwanegol hyn yn berthnasol i weithgareddau adeiladu mewnol yn unig ac maent yn ofynnol i gefnogi cyflawniad diogel, effeithlon ac amserol Canolfan Ganser Newydd Felindre. Gan fod y gwaith yn digwydd y tu mewn i’r adeilad, ni ddisgwylir llawer iawn o aflonyddwch i’r gymuned gyfagos o gwbl.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu â mi, Katie Hathaway, ar KHathaway@sacyr.com neu 07763 203360. Rydym wrth law i helpu gydag unrhyw ymholiadau a sicrhau bod y broses yn mynd mor llyfn â phosibl i bawb.

Diolch i chi am eich cydweithrediad.

News 18.09
2026-09-18

News

Ar 19 Gorffennaf 2026, bu Tîm Felindre yn falch o gymryd rhan yn nigwyddiad cyntaf Dangos Canser y V a gynhaliwyd ym Mharc Bute, Caerdydd. Trefnwyd y ras hwyl gan Elusen Ganser Felindre, gan ddwyn pobl o bob oed a gallu ynghyd i godi arian hanfodol ar gyfer gofal canser ar draws De Ddwyrain Cymru. Gallai’r cyfranogwyr ddewis dilyn llwybrau 1.5, 5 neu 10 cilometr, gan greu digwyddiad cynhwysol a chroesawgar a oedd yn annog teuluoedd, ffrindiau, cyd-weithwyr a chefnogwyr i gymryd rhan wrth hyrwyddo iechyd, llesiant ac ysbryd cymunedol. 

Bu’r digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, gan ddwyn ynghyd gannoedd o gyfranogwyr i gefnogi’r rhai y mae canser yn effeithio arnynt. Roedd Tîm Felindre yn falch o gael bod yn rhan o’r achlysur, gan helpu i feithrin ymwybyddiaeth a chodi arian ar gyfer Gwasanaeth Canser Felindre, sy’n cynorthwyo dros 1.7 miliwn o bobl ar draws y rhanbarth. 

Gyda chefnogaeth cymunedau lleol a chyfranogwyr adnabyddus, gan gynnwys Sam Warburton, cyn-gapten tîm rygbi Cymru, bu’n ddiwrnod llawn positifrwydd, penderfyniad a gobaith. Roedd y digwyddiad wedi amlygu nerth ysbryd cymunedol, gan ddangos yr effaith y gall ymdrechion ar y cyd eu cael wrth gynorthwyo unigolion a theuluoedd y mae canser yn effeithio arnynt. 

Diolch o galon i bawb a oedd wedi cymryd rhan, gwirfoddoli, cyfrannu neu gefnogi’r digwyddiad. Roedd eich cyfraniad chi wedi helpu i sicrhau bod digwyddiad cyntaf Dangos Canser y V yn achlysur llwyddiannus, gan godi arian hanfodol a helpu i wneud gwahaniaeth i bobl y mae canser yn effeithio arnynt ar draws De Ddwyrain Cymru.

news 17.09
2026-09-17

News

Mae Siediau Dynion, mewn partneriaeth â Chanolfan Ganser Newydd Felindre, yn dathlu lansiad llwyddiannus ei phrosiect Share Shed, gan gymryd can pwysig ymlaen wrth gynorthwyo llesiant cymunedol, cynaliadwyedd, a chynhwysiant cymdeithasol yn yr ardal leol. 

Gwelwyd cefnogwyr a phreswylwyr lleol yn dangos cryn ddiddordeb yn y lansiad, er gwaethaf y ffaith iddo gael ei gynnal ar yr un pryd â dathliadau poblogaidd SplottFest, lle roedd rhaglen brysur o gerddoriaeth fyw ac adloniant yn cystadlu am sylw pobl. Hyd yn oed gyda’r heriau hyn, cafodd y prosiect ymateb cadarnhaol, gyda nifer o ymwelwyr yn awyddus i ddysgu mwy am Share Shed a’r cyfleoedd y mae’n eu cynnig i’r gymuned gymryd rhan. 

Nod menter Share Shed yw dwyn pobl ynghyd trwy rannu, gwirfoddoli a chynnal gweithgareddau ymarferol sy’n hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol a chysylltiad cymdeithasol. Mae’r prosiect eisoes wedi dangos ei botensial i greu gweithgarwch ymgysylltu cymunedol ystyrlon a chynnig lle croesawgar i bobl o ystod eang o gefndiroedd. 

Gan ddatblygu’r llwyddiant cynnar hwn, bydd y bartneriaeth yn cynnal sesiwn rannu yr wythnos nesaf gyda Gweithredu dros Blant Cymru. Mae’r ddau sefydliad yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn gam cyntaf perthynas hirdymor a fydd yn cael effaith gadarnhaol. Bydd y cydweithio yn canolbwyntio ar gynorthwyo pobl ifanc trwy roi cyflwyniad iddynt i Share Shed a’r cyfleoedd sydd ar gael trwy wirfoddoli a chyfranogiad cymunedol. 

Mae helpu pobl ifanc i feithrin sgiliau ymarferol, hyder a phrofiad a allai gynorthwyo cyfleoedd o ran cyflogaeth yn y dyfodol yn un o brif uchelgeisiau’r bartneriaeth. Trwy gymryd rhan yn Share Shed, bydd cyfranogwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon wrth iddynt feithrin cysylltiadau yn eu cymuned. 

Mae llwyddiant y lansiad wedi cynnig sylfaen gadarn ar gyfer twf yn y dyfodol, ac mae Siediau Dynion a Chanolfan Ganser Newydd Felindre yn teimlo’n gyffrous ynghylch parhau i ddatblygu’r prosiect. Gyda phartneriaethau newydd eisoes yn dod i’r amlwg a chynlluniau i gynorthwyo mwy o bobl trwy gyfrwng gweithgarwch ymgysylltu cymunedol, mae Share Shed yn datblygu’n gyflym i fod yn adnodd lleol gwerthfawr, ac yn un sydd â’r potensial i gynnig buddion cymdeithasol parhaus.

news 16.09
2026-09-16

News

Estynnom groeso i Farwnes Smith o Lanfaes, Carmen Smith, i Gaerdydd i drafodaeth bord gron a oedd yn canolbwyntio ar ddyfodol pobl ifanc a chyflogaeth yng Nghymru. 

Yn rhan o raglen yr Ymddiriedolaeth Diwydiant a Senedd, cyfarfu Barwnes Smith â chyflogwyr a sefydliadau ar draws Cymru i glywed yn uniongyrchol am y cyfleoedd a’r heriau y mae pobl ifanc sy’n ymuno â’r gweithlu yn eu hwynebu. 

Bu’r drafodaeth yn archwilio amrediad o bynciau pwysig, gan gynnwys y farchnad swyddi newidiol, y gofynion o ran sgiliau yn y dyfodol, rhwystrau i gyflogaeth, cymorth i bobl ifanc anabl, a’r rôl y gall busnesau, sefydliadau addysgol a’r llywodraeth ei chyflawni wrth greu llwybrau gwell i fyd gwaith. 

Roedd pwysigrwydd cydweithio yn thema allweddol trwy gydol y ford gron. Amlygodd y cyfranogwyr y ffaith y bydd y datrysiadau mwyaf effeithiol yn deillio o rannu profiadau, dysgu oddi wrth ein gilydd, a chydweithio i greu mwy o gyfleoedd i’r genhedlaeth nesaf. 

Hoffem ddiolch i Farwnes Smith am neilltuo’r amser i wrando ac ymgysylltu mewn ffordd agored â’r rhai a oedd yn bresennol, a hefyd i bawb a oedd wedi cyfrannu eu dirnadaeth a’u profiadau i’r drafodaeth. At hynny, hoffem estyn ein diolch i Westy Parkgate, Caerdydd, am gynnal y digwyddiad.

News 15.09 02
2026-09-15

News

Yn ddiweddar, croesawodd Canolfan Ganser Newydd Felindre aelodau o’r cyngor lleol ar ymweliad safle, gan gynnig cyfle i ddysgu mwy am y datblygiad a gweld y cynnydd sy’n cael ei wneud ar y safle yn uniongyrchol. 

Cychwynnodd yr ymweliad gyda chyflwyniad gan Vincenzo Nigro, Katie Hathaway ac Elena Castro Blanco, a fu’n rhannu dirnadaeth o’r weledigaeth sy’n sail i’r cyfleuster newydd a sut y mae’n wahanol i ganolfan ganser neu ysbyty traddodiadol. Soniwyd am y ffordd y mae’r dyluniad wedi cael ei seilio’n ofalus ar brofiad y claf, gyda nodweddion megis mwy o olau naturiol, balconïau hygyrch, ardaloedd dydd eang a bwyty cyhoeddus, a’r holl elfennau hyn yn ceisio creu amgylchedd mwy croesawgar a llai ynysig i gleifion a’u teuluoedd. 

Bu’r tîm hefyd yn trafod ymrwymiad y prosiect i iechyd a diogelwch, cyfrifoldeb amgylcheddol, yn ogystal ag ymgysylltu cymunedol. Dangoswyd i aelodau’r Cyngor sut y mae’r datblygiad yn gweithio er mwyn cynnig budd i gymunedau lleol, gan integreiddio gyda’r ardal o’i chwmpas a diogelu’r amgylchedd naturiol lle bynnag y bo modd. 

Dilynwyd hyn gan sesiwn holi ac ateb, lle cynigiwyd y cyfle i ymwelwyr fynegi unrhyw bryderon a chael sicrwydd pellach am y cyfleuster newydd a’i effaith ehangach. 

Yn dilyn y cyflwyniad, rhoddwyd y PPE priodol i aelodau’r cyngor cyn iddynt fynd ar daith dywys o gwmpas y safle. Dan arweiniad Vincenzo Nigro ac Elena Castro Blanco, a chynrychiolwyr o’r Tîm Buddion Cymunedol, roedd y daith wedi dangos sawl agwedd allweddol ar y prosiect.

News 14.09
2026-09-14

News

Croesawodd Mai Harris, un o ymgeiswyr yr Academi Entrepreneuraidd, ITV News i’r safle yn ddiweddar fel yn o eitem nodwedd am ei thaith ysbrydoledig o fod yn glaf canser i fod yn ddarpar entrepreneur. Gan dynnu ar ei phrofiad ei hun o gael triniaeth ar gyfer lewcemia, mae Mai wedi datblygu cysyniad busnes sy’n canolbwyntio ar greu dillad hygyrch i gleifion sy’n cael triniaeth mewn ysbyty. Nod ei dyluniadau arloesol yw caniatáu mynediad meddygol ar gyfer triniaeth a monitro heb fod angen torri, tynnu neu ddifetha dillad, gan helpu cleifion i gynnal cyfforddusrwydd ac urddas trwy gydol eu siwrnai gofal. Trwy gefnogaeth yr Academi Entrepreneuraidd, mae Mai wedi gweithio i ddatblygu hyfywedd masnachol ei syniad, gan archwilio datblygu cynnyrch, cyfleoedd ar gyfer gweithgynhyrchu a llwybrau i’r farchnad. 

Yn ystod yr ymweliad, bu ITV yn ffilmio gweithgareddau a oedd yn rhan o’r rhaglen ac yn cyfweld Arweinydd y Cwrs Entrepreneuraidd, Dan Biddle, a siaradodd am ei angerdd dros gefnogi darpar entrepreneuriaid a’r effaith hirdymor y bwriedir i’r cwrs ei chael ar gyfranogwyr. Eglurodd Dan sut mae’r academi yn arfogi unigolion â’r sgiliau ymarferol, yr hyder a’r wybodaeth am fyd busnes sy’n ofynnol i drawsnewid profiadau personol a syniadau arloesol yn fentrau hyfyw. Dangoswyd stori Mai fel enghraifft o sut y gellir defnyddio entrepreneuriaeth i greu datrysiadau ystyrlon i heriau yn y byd go iawn a chreu effaith gymdeithasol gadarnhaol ar yr un pryd. 

Yn dilyn y cyfweliadau yn yr ystafell ddosbarth, aeth ITV gyda Mai ar hyd llwybr cerdded y safle i ffilmio rhagor o gyfweliadau a chlipiau ychwanegol yn erbyn cefnlen y safle newydd sy’n cael ei ddatblygu ar gyfer Canolfan Ganser Felindre. Roedd y clipiau ffilm yn dangos siwrnai entrepreneuraidd Mai a’r cynnydd sylweddol sy’n cael ei wneud ledled y safle, gan roi ymdeimlad o faint ac uchelgais y cyfleuster i’r gwylwyr. Roedd yr eitem nodwedd hefyd yn cydnabod y cymorth a roddwyd gan Sacyr, sydd wedi helpu i greu amgylchedd lle gall cynlluniau fel yr Academi Entrepreneuraidd ysbrydoli a chefnogi’r genhedlaeth bresennol o entrepreneuriaid a chenedlaethau’r dyfodol. 

news 11.09
2026-09-11

News

Mae’n bleser gan Sacyr rannu diweddariad gan Sied Dynion Llys-faen, elusen leol sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd meddwl a llesiant dynion yn y gymuned dros y bum mlynedd ddiwethaf. 

Gan weithio o gaban a chynhwysydd ym maes parcio Tŷ Mawr Inn, mae Sied Dynion Llys-faen yn wynebu dyfodol ansicr ar hyn o bryd o ran ei safle. Mae les bresennol y grŵp wedi’i chyfyngu i bum mlynedd, a cheir cyfnod rhybudd o fis, a allai olygu y byddai angen iddynt symud i leoliad arall unrhyw bryd. Er mwyn sicrhau dyfodol yr elusen ar gyfer y tymor hir mae ymdrechion sylweddol yn mynd rhagddynt, tra bo trafodaethau yn parhau gyda Chyngor Caerdydd ynghylch lleoliad newydd posibl. 

Mae’r ansicrwydd hwn yn rhoi pwysau ar sefyllfa ariannol yr elusen, gan fod adnoddau y byddent fel arfer yn cynorthwyo gweithrediadau dydd-i-ddydd yn cael eu cyfeirio’n gynyddol tuag at sicrhau cartref parhaol. O ganlyniad, mae’r sefydliad yn wynebu heriau wrth gynnal gweithgareddau sy’n ganolog i brofiad ei aelodau, gan gynnwys teithiau cymunedol, darparu trafnidiaeth, a chynnal a chadw ac adnewyddu offer a pheiriannau gwaith coed. 

Mae’r elusen hefyd wedi nodi sawl gofyniad o ran hyfforddiant sy’n hanfodol i sicrhau diogelwch a chynaliadwyedd ei wasanaethau. Mae’r rhain yn cynnwys hyfforddiant Cymorth Cyntaf ar gyfer tri aelod trwy’r Groes Goch Brydeinig. 

Sefydlwyd Sied Dynion Llys-faen i gynnig amgylchedd diogel a chroesawgar lle gall dynion gyfarfod, meithrin cyfeillgarwch a chynorthwyo ei gilydd trwy gyfrwng cwmnïaeth a gweithgareddau ar y cyd. Wrth i Dde Cymru brofi rhai o’r cyfraddau uchaf o hunanladdiad ymhlith gwrywod yn y DU, cenhadaeth y Sied yw helpu i oresgyn arwahanrwydd, unigrwydd ac iechyd meddwl gwael trwy greu cyfleoedd i ddynion gysylltu “ysgwydd wrth ysgwydd” wrth iddynt gymryd rhan mewn prosiectau gwaith coed ymarferol. 

Mae amgylchedd y gweithdy yn annog sgwrsio, chwerthin, cydgefnogaeth a rhannu profiadau mewn lleoliad anffurfiol a digyffro. Mae nifer o aelodau yn canfod bod gweithio gydag eraill yn eu helpu i siarad yn agored am heriau na fyddent, o bosibl, yn eu trafod fel arall, gan gyfrannu at lefelau llesiant gwell, cysylltiadau cymdeithasol cryfach a mwy o ymdeimlad o berthyn. 

Er gwaethaf yr heriau sy’n gysylltiedig â sicrhau safle parhaol newydd, mae Sied Dynion Llys-faen yn parhau i fod yn ymrwymedig i’w chenhadaeth ac mae’n parhau i ddarparu adnodd cymunedol gwerthfawr. Bydd ymdrechion codi arian parhaus yr elusen a’i buddsoddiad mewn hyfforddiant yn cyflawni rôl hanfodol wrth sicrhau ei bod yn gallu parhau i gynorthwyo dynion lleol a hyrwyddo canlyniadau iechyd meddwl cadarnhaol ar draws y gymuned am flynyddoedd i ddod. 

Mae Sacyr yn dymuno pob llwyddiant i’r tîm wrth iddynt weithio tuag at sicrhau eu dyfodol a pharhau eu cyfraniad pwysig i lesiant cymunedol.

News 10.09
2026-09-10

News

Yn ystod y mis diwethaf, ymunodd yr Academi Entrepreneuraidd â ni, dan arweiniad Dan Biddle, ac yn cael eu cefnogi gan Harrison Fairclough a Chynorthwyydd yr Academi Anabledd, Aash Nash, yng Nghanolfan Ganser newydd Felindre. Rhagorodd y rhaglen ar y disgwyliadau a dangosodd botensial anhygoel unigolion a allai fod wedi wynebu rhwystrau a oedd yn eu hatal rhag cael gwaith yn y gorffennol, neu a allai fod wedi cael eu diystyru gan y farchnad lafur. Cyrhaeddodd y cyfranogwyr â syniadau busnes amrywiol a oedd yn hyfyw o safbwynt masnachol a hefyd yn canolbwyntio ar greu effaith gymdeithasol ystyrlon a gwella bywydau pobl eraill. 

Trwy gydol y cwrs, roedd yn ysbrydoliaeth i wylio’r cyfranogwyr yn datblygu eu hyder, eu sgiliau a’u meddylfryd entrepreneuraidd. Roedd y cysyniadau busnes yn cynnwys dillad y gellir eu haddasu ar gyfer cleifion sy’n derbyn therapi, cynlluniau chwaraeon cadair olwyn, cynlluniau cyflogaeth i bobl ddall â’r nod o greu mwy o gyfleoedd i unigolion sydd â nam ar eu golwg, dillad isaf a gemwaith wedi’u cynllunio er mwyn cefnogi menywod sydd wedi profi trawma a heriau personol, atebion peirianyddol er mwyn lliniaru effeithiau newid hinsawdd, datblygiadau ystafell synhwyraidd, elusennau yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr, a llawer mwy o fentrau cymdeithasol eu natur. Graddiodd pob un o’r cyfranogwyr yn llwyddiannus o’r academi ac maent yn parhau i ddatblygu eu syniadau busnes ’nawr, gan ddangos effaith barhaus y rhaglen a’i chyfraniad i feithrin arloesedd, cynhwysiant a chyfle yn ein cymuned. 

News 09.09
2026-09-09

News

Heddiw, cafodd Jambori’r Haf y fraint o groesawu Mike Collins, artist adnabyddus gyda Marvel a DC Comics. Cafodd ei gyflwyno gan Dîm Budd Cymunedol Sacyr a Noddfa wrth iddo baratoi i arwain gweithdy dylunio comics ar gyfer pobl ifanc leol. 

Cyflwynodd Mike sesiwn ddiddorol ac ysbrydoledig, gan egluro technegau amrywiol a ddefnyddir gan artistiaid comics proffesiynol i gynllunio dyluniadau cymeriadau, cyfosodiadau, ac ystumiau yn gyflym. Roedd rhai o’i ddulliau’n cynnwys defnyddio cymeriadau wedi’u gwneud o linellau syml fel sylfaen ar gyfer osgo corff, gan arbrofi â llythrennau a siapiau i ddylunio cymeriadau unigryw, a hyd yn oed osod dotiau yma ac acw ar dudalen i helpu i bennu ystumiau a chyfansoddiad cymeriadau. 

Dangosodd hefyd sut y gall cefndiroedd syml a thechnegau fframio ychwanegu cymaint at y dull o adrodd storïau. Er enghraifft, gall defnyddio dinaslun llai y tu ôl i gymeriad bwysleisio ei faint, tra bo onglau a llinellau dynamig yn gallu creu ymdeimlad o gyflymder a symud. 

Yn ddiweddarach yn y gweithdy, rhannodd Mike enghreifftiau o’i bortffolio proffesiynol, gan arddangos paneli comic trawiadol a gwaith bwrdd stori. Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys portread un ffrâm o hanes bywyd Neil Armstrong a byrddau stori a grëwyd ar gyfer Doctor Who. Eglurodd sut y defnyddir techneg byrddau stori mewn gwahanol rannau o’r diwydiant er mwyn cynllunio coreograffi golygfeydd, onglau camera, ac adrodd storïau gweledol cyn i’r ffilmio ddechrau. 

Yn dilyn yr arddangosiadau, gwahoddwyd y cyfranogwyr i greu eu cymeriadau eu hunain gan ddefnyddio’r technegau a gyflwynwyd gan Mike. Rhoddodd y sesiwn gipolwg gwerthfawr i bobl ifanc ar y broses greadigol y tu ôl i’r llyfrau comics ac adrodd storïau gweledol, gan eu hannog i ddatblygu eu sgiliau artistig a’u dychymyg eu hunain. 

Roedd y gweithdy’n llwyddiant ysgubol, ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o artistiaid ac adroddwyr storïau trwy ddysgu ymarferol ac arweiniad arbenigol gan un o’r crewyr comics uchaf ei barch yn y diwydiant. 

NL9
2026-09-09

Newsletters

New Velindre Cancer Center - Newsletter 9

News 08.09
2026-09-08

News

Elwodd Meithrinfa Grangetown o waith i adnewyddu ac adfer gardd yr ysgol, sef cynllun a gafodd ei ysgogi a’i gefnogi gan FP Hurley yn rhan o’i ymrwymiad i gefnogi ysgolion a chymunedau lleol. Roedd y gwaith a wnaethpwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf yn canolbwyntio ar wella cyflwr a golwg yr ardd, gan greu amgylchedd awyr agored mwy croesawus a defnyddiol i’r disgyblion a’r staff. Gwnaethpwyd gwaith rhagorol wrth drawsnewid yr ardd a sicrhau y gall cymuned yr ysgol wneud defnydd llawn ohoni. 

Mae’r gwaith adfer wedi trawsnewid yr ardd i fod yn ardal fwy diddorol y gellir ei defnyddio ar gyfer dysgu awyr agored, chwarae a rhyngweithio cymdeithasol. O ganlyniad i wella’r man agored, mae disgyblion bellach yn cael mynediad at amgylchedd ysgogol sy’n cefnogi eu datblygiad, eu llesiant a’u cysylltiad â natur, ac mae hefyd yn ategu eu gweithgareddau ystafell ddosbarth ac yn cyfoethogi’r profiad cyffredinol o ddysgu. 

Er mwyn adeiladu ar y gwelliannau hyn, mae cynlluniau ar y gweill i gyflwyno rhagor o ddodrefn awyr agored a fydd yn gwneud yr ardd yn fwy defnyddiol eto a darparu mannau dynodedig ar gyfer dysgu, gweithgareddau grŵp ac ymlacio. Bydd yr ychwanegiadau hyn yn helpu i gynyddu’r defnydd o’r man agored a sicrhau bod disgyblion a staff yn parhau i elwa o amgylchedd awyr agored o ansawdd da.

News 07-09
2026-09-07

News

Ymwelodd myfyrwyr o Ysgol Bryn y Deryn â’r safle yn ddiweddar i gymryd rhan mewn gweithdy gosod brics yn cael ei gyflwyno gan ein contractwyr Falcon 3, â’r bwriad o ysbrydoli diddordeb mewn adeiladu a helpu dysgwyr i ddechrau datblygu sgiliau ymarferol yn y diwydiant. 

Dechreuodd yr ymweliad â chyflwyniad a sgwrs am brosiect Canolfan Ganser newydd Felindre, lle bu’r dysgwyr yn archwilio camau amrywiol yn y broses adeiladu, dulliau adeiladu modern, a phwysigrwydd cynaliadwyedd yn y prosiect. Roedd y trafodaethau hefyd yn canolbwyntio ar y gyrfaoedd amrywiol sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu ac yn herio stereoteipiau cyffredin sy’n gysylltiedig â’r diwydiant. 

Yn dilyn hyn cafwyd cyflwyniad ar iechyd a diogelwch, yn tynnu sylw at bwysigrwydd arferion gweithio diogel a’r defnydd o gyfarpar diogelu personol (PPE) ar safle adeiladu. 

Yna cyflwynwyd y myfyrwyr i aelodau o dîm Falcon, a arweiniodd y gweithdy gosod brics. Cafodd y grŵp arddangosfa ymarferol o dechnegau gosod brics cywir, gan gynnwys sut i ddefnyddio trywel a morter yn ddiogel ac yn effeithiol. 

Dangosodd y dosbarth eu bod yn frwdfrydig ac yn awyddus i ddechrau’r gweithdy ar unwaith, a datblygodd eu sgiliau yn fuan dan arweiniad tîm Falcon. Roedd y dysgwyr yn ymgysylltu’n gadarnhaol trwy gydol y sesiwn, a gwelwyd hwy’n meithrin hyder ac yn dangos cynnydd trawiadol mewn cyfnod byr. 

Dangosodd dau o’r myfyrwyr allu a brwdfrydedd eithriadol. Dywedodd tîm Falcon y byddent wedi bod yn ymgeiswyr cryf am rolau ar safle pe baent wedi bod o oed gweithio. Yn hytrach, cawsant eu hannog i ystyried prentisiaethau gosod brics, cyrsiau coleg sy’n gysylltiedig ag adeiladu, a chyfleoedd ar gyfer gyrfa yn y diwydiant yn y dyfodol sy’n briodol i’w hoedran a’u cyfnod ym maes addysg. 

Rhoddodd yr ymweliad brofiad dysgu ymarferol gwerthfawr, gan helpu dysgwyr i gael gwell dealltwriaeth o adeiladu, datblygu sgiliau ymarferol, ac archwilio llwybrau gyrfaol posibl yn y sector.

News 04.09
2026-09-04

News

Ymwelodd dau aelod o’r Tîm Budd Cymunedol â Gerddi’r Santes Fair yn Heol yr Hen Eglwys, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, yn ddiweddar i gwrdd â gwirfoddolwyr o Gyfeillion Gerddi’r Santes Fair a dysgu mwy am y gwaith sy’n cael ei wneud i adfer y man cymunedol pwysig hwn. Roedd yr ymweliad yn gyfle i drafod yr hyn a gyflawnwyd gan y grŵp, yr heriau presennol, a meysydd lle gellid cynnig cefnogaeth yn y dyfodol, gan gynnwys y posibilrwydd o adnewyddu neu osod gât newydd yng nghefn yr hen fynwent er mwyn gwella mynediad, diogelwch, a golwg gyffredinol y safle. 

Mae Gerddi’r Santes Fair ar safle hanesyddol eglwys a mynwent wreiddiol y Santes Fair, a fu’n gwasanaethu’r gymuned leol am dros  500 mlynedd. Ar ôl codi eglwys newydd yn 1885 a dymchwel yr hen un yn 1904, cafodd y safle ei esgeuluso am gyfnod maith a thyfodd yn wyllt. Ar ôl i Gyngor Caerdydd gymryd y safle drosodd yn 1972, cafodd yr ardal ei thrawsnewid yn ardd gyhoeddus, gan gadw nodweddion treftadaeth pwysig megis rhesi o gerrig beddi a choed aeddfed. Agorwyd y gerddi’n swyddogol yn 1974, a chawsant gydnabyddiaeth yn ddiweddarach ar ffurf gwobr Cymru yn ei Blodau. Yn y degawdau dilynol, fodd bynnag, o ganlyniad i lai o waith cynnal a chadw, gwelwyd dirywiad yng nghyflwr y safle, ynghyd ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a llai o ddefnydd cymunedol. 

Mewn ymateb i hyn, aeth y trigolion lleol ati yn 2017 i helpu i adfer ac adfywio’r gerddi. Aelodau o Sefydliad y Merched yr Eglwys Newydd oedd yn arwain y gwaith ar y dechrau, a thrwy weithio mewn partneriaeth ag Adran Parciau Cyngor Caerdydd arweiniodd eu hymdrechion at sefydlu Cyfeillion Gerddi Eglwys y Santes Fair yn ffurfiol yn 2019. 

Heddiw, mae’r sefydliad sy’n cael ei arwain gan wirfoddolwyr yn cydlynu tua 20 o wirfoddolwyr rheolaidd ac yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gynnal a gwella’r safle hanner acer. Mae’r grŵp yn codi ymwybyddiaeth ac yn casglu arian, yn cefnogi gweithgareddau cynnal a chadw rheolaidd, ac yn gweithio er mwyn gwella arwyddocâd hanesyddol a bioamrywiaeth y gerddi, gan sicrhau eu bod yn parhau’n ased cymunedol gwerthfawr. 

Mae grant o £1,000 gan Thrive yn ddiweddar wedi cryfhau’r ymdrechion hyn ymhellach trwy ariannu man storio diogel ac offer garddio hanfodol. Mae’r buddsoddiad hwn wedi galluogi gwirfoddolwyr wedi’u hawdurdodi i ymgymryd â gweithgareddau cynnal a chadw rhwng sesiynau gwaith wedi’u trefnu, gan helpu i gynnal cynnydd a chynyddu perchnogaeth gymunedol o’r man hwn. 

Trwy ymroddiad y gwirfoddolwyr a chefnogaeth partneriaid lleol, mae Cyfeillion Gerddi’r Santes Fair wedi llwyddo i drawsnewid y safle yn fan gwyrdd diogel, croesawus, a llewyrchus. Mae eu gwaith yn parhau i sicrhau cydbwysedd rhwng cadw treftadaeth gyfoethog y gerddi ac anghenion y gymuned leol, gan ddod â budd i drigolion, ymwelwyr, a bywyd gwyllt fel ei gilydd. 

lavender-august-monitoring
2026-09-03

Monitoring Report

New Velindre Cancer Centre - Summary Monitoring Report - August 2026

News 3.09
2026-09-03

News

Roeddem wrth ein bodd yn croesawu Ruby Gallimore i’n swyddfeydd ac i brosiect Canolfan Ganser newydd Felindre fel rhan o’i lleoliad profiad gwaith. 

Yn ystod ei chyfnod gyda ni, bu Ruby yn gweithio gyda’n Tîm Buddion Cymunedol a chyd-weithwyr o Gontractwyr Optimum, gan sicrhau dirnadaeth werthfawr o’r diwydiant adeiladu a phwysigrwydd ymgysylltu cymunedol mewn prosiectau seilwaith mawr. Trwy gydol yr wythnos, dangosodd frwdfrydedd, proffesiynoldeb a pharodrwydd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gan ddod yn aelod gwerthfawr o’r tîm yn gyflym. 

Roedd lleoliad Ruby wedi cynnig profiad o’r byd go iawn iddi mewn amgylchedd adeiladu byw, ac roedd hefyd wedi cynnig y cyfle iddi ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol uwch yn y diwydiant, gan gynnwys Cyfarwyddwr Rheoli Optimum, Simon Britton. Roedd hi hefyd wedi cynorthwyo gyda gweithgareddau allgymorth cymunedol a chyflawni rôl arweiniol wrth ddarparu sesiwn STEM mewn ysgol leol, gan helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc i archwilio gyrfaoedd ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.  

Yn rhan o’i lleoliad, bu Ruby yn cydweithio’n agos â Harrison Fairclough, Cynorthwyydd Buddion Cymunedol, er mwyn helpu i greu prosiect cyfryngau ar gyfer Sacyr, a gynlluniwyd i arddangos llwyddiant yr Academi Entrepreneuraidd ac amlygu’r effaith gadarnhaol y mae’r rhaglen yn parhau i’w chael ar bobl ifanc ar draws y rhanbarth. 

Bu'r profiad yn fodd i Ruby feithrin sgiliau newydd, magu hyder, a chael dealltwriaeth ehangach o’r ystod eang o gyfleoedd o ran gyrfa sydd ar gael ym maes adeiladu, cyflawni prosiectau ac ymgysylltu cymunedol. Rydym yn falch o gefnogi cyfleoedd profiad gwaith sy’n helpu pobl ifanc i gael cyswllt ystyrlon â gweithleoedd a meithrin sgiliau a fydd o fudd iddynt yn eu gyrfa a’u haddysg yn y dyfodol. 

Hoffem ddiolch i Ruby am ei gwaith caled a’i hagwedd gadarnhaol trwy gydol yr wythnos a hoffem ddymuno pob llwyddiant iddi yn y dyfodol. 

2026-09-01

Timelapse Camera

Watch last month's construction progress!

News 4.08 1
2026-08-04

News

Mwynhaodd myfyrwyr o Ganolfan Marion yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf yng Nghaerdydd ymweliad â Chanolfan Ganser Newydd Felindre, lle buont yn dysgu am y diwydiant adeiladu a’r gyrfaoedd y mae’n eu cynnig.

Wedi’i drefnu gan Gynghorydd Ymgysylltu â Busnes Gyrfa Cymru, Adrien Cole, a’i gefnogi gan Dîm Buddion Cymunedol Sacyr UK, bu i’r ymweliad groesawu myfyrwyr o amryw o oedrannau ac anghenion dysgu. 

Rhoddodd Joanne O’Keefe, y Cydlynydd Buddion Cymunedol, gyflwyniad rhyngweithiol i’r myfyrwyr yn cyflwyno hanes y prosiect a thaith Canolfan Ganser Newydd Felindre, o’r camau cynllunio cychwynnol i’r gwaith adeiladu a’r weledigaeth ar gyfer y cyfleuster gorffenedig. Bu i’r myfyrwyr hefyd ddarganfod nifer o gyfleoedd o ran gyrfa yn y diwydiant adeiladu, gan gynnwys rolau megis adeiladwyr, trydanwyr, plymwyr, peirianwyr a phenseiri.

Ffocws allweddol y sesiwn oedd cynaliadwyedd, gyda’r myfyrwyr yn dysgu am ddeunyddiau adeiladu arloesol megis concrit cywarch (hempcrete), pren a cherrig gabion, ochr yn ochr ag ymrwymiad y prosiect i ddiogelu bywyd gwyllt, cynefinoedd a bioamrywiaeth lleol trwy gydol y gwaith adeiladu.

Yn dilyn y cyflwyniad, gwisgodd y myfyrwyr eu cyfarpar diogelu (PPE) ac, ar ôl briff ar ddiogelwch, aethant allan am daith dywys o amgylch y safle gyda’u hathrawon ac aelodau o dîm y prosiect. Trwy weld y safle adeiladu ar waith, daethpwyd â’r cyflwyniad yn fyw, gyda’r myfyrwyr yn gweld peiriannau mawr, gweithgareddau adeiladu a mesurau diogelu’r amgylchedd, gan gynnwys trefniadau i ddiogelu bywyd gwyllt a rheoli rhywogaethau planhigion ymledol.

Daeth y diwrnod i ben gydag arddangosiad ymarferol diddorol o fwrdd cylched trydanol a gyflwynwyd gan yr isgontractwr FP Hurley Electrical, gan roi cyfle i’r myfyrwyr archwilio sgiliau ymarferol sy’n cael eu defnyddio yn y diwydiant.

Roedd yr ymweliad yn brofiad gwerthfawr a phleserus, gyda llawer o’r myfyrwyr yn gadael wedi’u hysbrydoli gan yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu. 

2026-08-04

Timelapse Camera

Watch last month's construction progress!

jaonun-hydrangea-flowers-jia-2086900_1920
2026-08-03

Monitoring Report

New Velindre Cancer Centre - Summary Monitoring Report - July 2026

News 13.07 (1)
2026-07-13

News

Mae Joanne O’Keefe, Cydlynydd Budd Cymunedol Sacyr UK, a Harrison Fairclough, y Cynorthwyydd Budd Cymunedol, wedi ffurfio partneriaeth gyda Gyrfa Cymru er mwyn gweithredu eu rhaglen ffug gyfweliadau.  Mae’r rhaglen hon yn darparu cyfweliadau ymarfer i fyfyrwyr, ynghyd ag adborth wedi’i bersonoli, i’w helpu i baratoi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol a chyfleoedd ar gyfer prentisiaeth.

Fel rhan o’r fenter hon, ymwelodd staff o Sacyr UK a Gyrfa Cymru ag Ysgol Nant-gwyn i gynorthwyo myfyrwyr Blwyddyn 10 i ddatblygu eu sgiliau cyfweliadau proffesiynol ac archwilio llwybrau gyrfa posibl. Rhannwyd y myfyrwyr yn grwpiau yn ôl y gyrfaoedd roedd ganddynt ddiddordeb ynddynt, gan ganolbwyntio’n benodol ar y rhai a oedd yn awyddus i gael gyrfa ym maes peirianneg.

Yn ystod y sesiynau ffug gyfweliadau, aseswyd y myfyrwyr ar sail nifer o wahanol gymwyseddau proffesiynol, gan gynnwys cyfathrebu, cyflwyniad, hyder, cwblhau CV a thaflenni gwybodaeth. Yn ychwanegol at hyn, aseswyd eu gallu i fynegi eu sgiliau, eu huchelgeisiau a’u dyheadau gyrfaol hirdymor. Roedd y cyfweliadau’n archwilio graddau disgwyliedig y myfyrwyr, eu huchelgeisiau hirdymor, a’r llwybrau roedd arnynt eu hangen er mwyn mynd ymlaen i’w meysydd peirianneg.

Roedd y safon gyffredinol a ddangoswyd gan y myfyrwyr yn drawiadol iawn, ac roedd llawer yn arddangos hunanymwybyddiaeth gref, proffesiynoldeb, a dealltwriaeth glir o’u huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol. Roedd nifer o ymgeiswyr yn amlygu eu hunain oherwydd eu brwdfrydedd, eu hyder a’u gwybodaeth fanwl am y sectorau peirianneg roeddent yn gobeithio ymuno â hwy, ynghyd â chyflawniadau academaidd disgwyliedig yn gyson â’u nodau gyrfaol. 

O ganlyniad, mae cyfleoedd yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd i alluogi nifer dethol o fyfyrwyr i gael cysylltiad pellach â’r diwydiant trwy ymweliadau safle posibl neu gyfleoedd i wirfoddoli ar safle Canolfan Ganser newydd Felindre, gan helpu i wella eu profiad ymarferol a chefnogi eu datblygiad proffesiynol parhaus.

Breadcrumb