1 - Multimedia block - Project Overview

Trosolwg o'r Prosiect

Bydd Canolfan Ganser newydd Felindre, sy’n hybu nodau cynaliadwyedd uchel, yn adeilad modern sy’n cynrychioli cam mawr ymlaen ar gyfer gofal iechyd yn y Deyrnas Unedig. Mae ei dyluniad, a luniwyd yn benodol i wneud y defnydd mwyaf posibl o ddeunyddiau naturiol lleol ac i fod ag ôl troed carbon is, yn hybu amgylchedd iachaol i gleifion, teuluoedd a staff. 

Mae'r technolegau meddygol mwyaf datblygedig a ddefnyddir i drin canser yn cael eu cyfuno â'r nod o warchod y dirwedd oddi amgylch a'i chadw mor wyllt â phosibl. 

2 - Multimedia block - Vision

Gweledigaeth

Gweledigaeth Acorn oedd creu canolfan ganser a fyddai â’r cryfder i bara yn yr hirdymor, hybu rhagoriaeth mewn gwasanaethau canser, a chefnogi gwaith ymchwil a datblygu rhyngwladol. Ei nod yw gwneud Cymru yn arweinydd byd ym maes trin canser.
 
Mae datblygu canolfan ragoriaeth newydd wedi bod yn daith gyffrous i Acorn, fel y gallwn adeiladu canolfan ganser ar gyfer y presennol a chenedlaethau’r dyfodol sy'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a darparu un o’r canolfannau canser mwyaf cynaliadwy yn y DU. 

3 - Multimedia block - Masterplan Details

Manylion y Prif Gynllun

Strategaeth ACORN ar gyfer y dirwedd yw ei 'chadw'n wyllt’. Bydd llawer o fannau cyffrous newydd yn cael eu creu, o’r berllan coed afalau Cymreig a gardd y gegin gymunedol i ardaloedd chwarae anffurfiol, ynghyd â llu o leoedd i gerdded, i feicio ac i ymlacio ynddynt. Mae’r cynefinoedd sydd yno’n barod yn cael eu cadw, a bydd ardaloedd newydd o ddolau blodau gwyllt bioamrywiol iawn.

4 - Multimedia block - Milestones

Cerrig Milltir 

Mae ein cynllun wedi'i ddatblygu i sicrhau ei fod yn cael yr effaith leiaf posibl ar y safle a'i fod yn darparu man iachol ymarferol, cain ei natur, lle y gall cleifion, staff ac aelodau o'r gymuned goleddu popeth sydd gan y prosiect i'w gynnig. 

Bydd y lloriau eang, y nenfydau uchel helaeth, a soffistigeiddrwydd cynnil y datrysiadau o ran darparu gwasanaethau yn hwyluso ystod eang o wasanaethau canser am ddegawdau i ddod. Bwriedir i ffurf bensaernïol yr adeilad ysbrydoli pobl trwy eglurder ei mynegiant, maint ei hardaloedd mewnol a'r modd y mae golau naturiol yn treiddio i ganol yr adeilad.  

Mae’r prosiect hefyd yn ymwneud â sicrhau buddion i’r gymuned, ac rydym yn gweithio’n galed i ddatblygu llawer o gyfraniadau cyffrous megis prentisiaethau, hyfforddiant, ymgysylltu â busnesau lleol, a gweithio mewn partneriaeth.

5 - Multimedia block - About us

Ynghylch Acorn

Mae ACORN yn dîm profiadol sydd â'r wybodaeth a'r adnoddau gofynnol i gyflawni'r ganolfan ganser yn llwyddiannus. Mae gennym bresenoldeb lleol cryf a gallu rhyngwladol ar draws dylunio, adeiladu a rheoli, ynghyd â phrofiad rhagorol ym meysydd gofal iechyd a phrosiectau cynaliadwy. Mae’r tîm yn cynnwys Sacyr, Abrdn, Kajima Partnerships, Kier Facilities Services, Osborne Clarke, Operis, Howden, Mazars, Cloud Nine, Evolution Infrastructure, Addleshaw Goddard, Marsh, Lloyds, Geldards, Pinsent Masons, AECOM, Artelia, White Arkitekter, Camlins, Socotec, Ingho FM, Hydrock, ICCA, MJ Medical, RSK, Studio Response, Turley, Studio Response a Bureau Veritas. Mae'r grŵp ariannu yn cynnwys Aviva Investors, Siemens, Sumitomo Mitsui Trust Bank, CaixaBank, Norinchukin, Nomura a Nord/LB fel asiant.

Breadcrumb