Community Intro

Yr Effaith ar y Gymuned

Rydym yn ymrwymedig nid yn unig i ddarparu canolfan ganser o'r radd flaenaf, ond hefyd i greu gwerth cymdeithasol sylweddol ar gyfer y gymuned leol. 

Dyma lle y byddwch yn gallu dilyn yr holl fentrau cymunedol gwych y mae tîm Acorn, ynghyd â'i gadwyn gyflenwi a'i bartneriaid, yn eu cynnal i gael effaith gadarnhaol ar dwf economaidd Cymru. 

Mae bod yn gymydog gorau posibl yn agwedd hanfodol ar ein gwaith, ac rydym yn ceisio cyflawni anghenion a disgwyliadau ein cleientiaid a'n rhanddeiliaid gan hefyd wneud y mwyaf o werth pob punt Gymreig a warir. Mae'r ymrwymiad hwn wrth wraidd popeth a wnawn ar y prosiect hwn. 

Community Modules

Ein Hymrwymiadau Cymunedol Allweddol

Meithrin perthnasoedd cymunedol ac ymddiriedaeth 

 

Ymgysylltu â sefydliadau ac elusennau lleol a'u cefnogi 

 

Creu cyfleoedd gwaith i'r rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), y rhai sy'n ddi-waith hirdymor a'r rhai sy'n ddifreintiedig 

 

Cefnogi prentisiaethau lleol, hyfforddiant, cyflogaeth ac addysg 

 

Gwella sgiliau ein gweithlu ar gyfer datblygiad personol 

 

Ymrwymo i gynaliadwyedd amgylcheddol a lleihau'r ôl troed carbon 

 

Denu talent ifanc i'r diwydiant adeiladu 

 

Cefnogi iechyd a llesiant pawb 

 

Defnyddio prosesau caffael moesegol 

 

Mynd ati i gefnogi prosiectau lleol a gwirfoddoli

 

Gwelliant parhaus trwy fonitro a chofnodi 

Mae ACORN wedi datblygu Rhaglen Buddion Cymunedol yn seiliedig ar bum prif biler:

1.    Y Dyfodol: buddsoddi mewn sgiliau a chyflogaeth i alluogi cymunedau lleol i wireddu eu potensial.


2.    Ffynnu: cyfrannu at lesiant cymunedau De Cymru a’u hamgylcheddau, gan hybu iechyd da a chynaliadwyedd amgylcheddol. 


3.    Bod yn Llewyrchus: hybu ymgysylltiad â Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh) a busnesau cymdeithasol, gan fuddsoddi mewn cymunedau lleol trwy ein cadwyn gyflenwi. 


4.    Croesawu: meithrin cynhwysiant a hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth ledled y gweithlu a chymunedau lleol.


5.    Meddwl: sefydlu mecanweithiau sy’n cefnogi dysgu cydweithredol i sicrhau ein bod, ar y cyd â'n partneriaid, yn adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio.