Asset Publisher

Newyddion
Cylchlythyr
Timelapse Camera
Monitoring Reports
Ddydd Mawrth 11 Chwefror, cynhaliodd Sacyr Ddigwyddiad 'Cwrdd â'r Partner' yn yr ystafell ddosbarth ar safle Canolfan Ganser newydd Felindre. Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i ddysgu rhagor am ein partneriaid yn y diwydiant, darparu gwybodaeth i'w helpu i ddeall y modd y gallant gyflawni eu targedau o ran gwerth cymdeithasol, creu gofod ar gyfer cymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon, a chynllunio ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol.

Roedd gennym 25 o westeion yn bresennol, gan gynnwys contractwyr newydd, asiantaethau cymorth a phartneriaid cyflenwi. Trafodwyd pwysigrwydd gwerth cymdeithasol a budd cymunedol a’r effaith a’r dylanwad sylweddol fwy y gellir eu cael pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd.

Dechreuodd y digwyddiad gyda chyflwyniad addysgiadol a theimladwy gan Kate Hammond o Ymddiriedolaeth GIG Felindre, a'n hatgoffodd ni i gyd o bwysigrwydd Canolfan Ganser newydd Felindre a'r effaith ddiamheuol y bydd ei gwasanaethau yn ei chael ar gleifion a'u teuluoedd.

Cawsom wrando ar gyflwyniadau defnyddiol iawn gan Goleg Caerdydd a’r Fro, Working Options, CITB, Llamau, The Busy Group, Sphere Solutions, 2B Enterprising, Blue Water Recruitment, Y Prentis a People Plus. Amlinellodd Hannah, Jo a Katie o Dîm Budd Cymunedol Sacyr hefyd y cymorth sydd ar gael gan y tîm o ran datblygu’r gweithlu ac ymgysylltu ag ysgolion/STEM, a thynnwyd sylw at Lwyfan Cymunedol newydd Acorn/Sacyr fel adnodd hanfodol ar gyfer cyfathrebu, cael diweddariadau perthnasol, a chyflwyno sylwadau.

Roedd yr adborth gan y rhai a oedd yn bresennol yn hynod gadarnhaol ac mae sgyrsiau am y modd y gallwn ffurfio partneriaethau effeithiol wedi parhau y tu allan i’r ystafell ddosbarth, sef un o’n nodau!

]]>
2025-03-21_Sacyr ‘Meet the Partner’ Event
2025-03-21

News

Rydym am roi gwybod i drigolion y gymuned y bydd ein tîm adeiladu yn gweithio oriau estynedig rhwng 6pm a 10pm yn ystod gweddill yr wythnos bresennol a’r wythnos sydd i ddod (yr wythnos sy’n gorffen ar 17 Mawrth a'r wythnos sy'n dechrau ar 24 Mawrth) ar gyfer gweithgareddau ac amserlenni o fewn eitem 4 yn y caniatâd a roddwyd a61.

Ddydd Iau 20 Mawrth, byddwn yn gweithio trwy’r nos i ganiatáu i drydydd parti ar ran Dŵr Cymru gysylltu prif gyflenwad dŵr sy’n croesi safle adeiladu Canolfan newydd Felindre. 

Ymddiheurwn am unrhyw darfu, ac rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn. 

Diolch i chi am eich amynedd.

]]>
Información (1)
2025-03-20

Croesawyd Joanne O'Keefe i dîm budd cymunedol SACYR, sy'n gweithio ar brosiect Canolfan Ganser newydd Felindre, ac ers iddi gyrraedd, mae wedi bod yn gaffaeliad mawr. Mae Joanne wedi ymgymryd yn hwylus â phopeth ac mae eisoes wedi cael effaith sylweddol ar sawl prosiect.

Daw Joanne â phrofiad helaeth fel athrawes ysgol uwchradd gymwysedig a hyfforddwr profiadol. Yn ei rôl flaenorol, hi oedd Cydlynydd Prentisiaid a Graddedigion Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Gyda chefndir ym maes addysg, gyrfaoedd a chymorth cyflogadwyedd, yn ogystal â threfnu digwyddiadau, recriwtio ar gyfer busnesau, ymgysylltu â rhanddeiliaid a rheoli prosiectau, bydd Joanne yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni'r dangosyddion perfformiad allweddol sy’n gysylltiedig ag ymgysylltu â STEM yn ogystal â chanolbwyntio ar dargedau’r prentisiaethau.

Mae’r broses o recriwtio prentis Budd Cymunedol i’r tîm hefyd wedi dechrau, ac mae tîm Sacyr yn brysur yn darllen trwy'r ceisiadau ar gyfer y rôl newydd sbon hon.  Bydd y prentis yn gweithio’n agos gydag aelodau’r tîm ar eu tasgau o ddydd i ddydd, ond yn benodol bydd ganddo gyfrifoldeb allweddol am fonitro a chynnal y llwyfan cymunedol, cefnogi digwyddiadau mewn ysgolion a gweithgareddau ar y safle, a chyfrannu at adroddiadau allweddol trwy ddadansoddi data.

]]>
JoanneK

Fel arwydd twymgalon o'i gefnogaeth i’r gymuned leol, mae Sacyr wedi rhoi offer hanfodol i Ganolfan Hamdden Channel View i geisio helpu i wella’r cyfleusterau sydd ar gael i bobl leol. Bydd Ystafell Gymunedol 5 a'i hoffer newydd sbon yn darparu gofod pwrpasol ar gyfer elusen leol sy'n cefnogi plant yn yr ardal gyda'u haddysg.

Llanwyd yr ystafell â'r rhoddion hael, sef 12 o ddesgiau, cadeiriau swyddfa, pedestalau, a 12 o liniaduron, gan ddarparu adnoddau gwerthfawr i'r plant mewn angen. Chwaraeodd Ali Abdi, eiriolwr ac ymgyrchydd cymunedol ymroddedig, rôl hanfodol o ran cydlynu'r rhodd hon.

Trefnodd Sacyr fod yr offer yn cael ei ddosbarthu, a darparodd gweithwyr medrus i roi’r eitemau at ei gilydd, gan sicrhau profiad didrafferth i bawb dan sylw. Mynegodd Ali Abdi ei ddiolchgarwch, gan ddweud, "Diolch unwaith eto am yr ymrwymiad hael ac edrychwn ymlaen at roi gwên ar wynebau'r gymuned leol."

Mae'r rhodd hael hon gan Sacyr ac ymdrechion ymroddedig Ali Abdi yn amlygu pŵer cydweithio a chymorth cymunedol. 

]]>
ChannelView
2025-03-19

Roedd Sacyr wrth ei fodd o gael ei wahodd i agoriad swyddogol Adref ddydd Gwener, 24 Ionawr. Dyma’r prosiect llety â chymorth diweddaraf gan yr YMCA sy’n benodol ar gyfer pobl ifanc 18-24 oed sy’n wynebu risg o brofi digartrefedd. Roedd yn ddigwyddiad arbennig iawn gyda Jo Stevens, yr Ysgrifennydd Gwladol, y llywyddu, a symudodd y preswylwyr i mewn i Adref ym mis Chwefror. Gyda chymorth dau bartner yn y gadwyn gyflenwi, sef Wysepower a Monex, sicrhaodd Sacyr fod pob fflat wedi’i gyfarparu’n llawn i ddarparu cartref croesawgar, diogel ac ymarferol. Trwy garedigrwydd ein tîm, roeddem wedi gallu darparu poptai microdon, dillad gwely, ac offer cegin newydd ar gyfer y deunaw o fflatiau i sicrhau effaith uniongyrchol a pharhaus ar y bobl ifanc yr ydym yn eu cefnogi.

Dywedodd Jade Morgan, Cyfarwyddwr Cynhyrchu Incwm yr YMCA, “Roeddwn am ddiolch o galon i chi am ddod i’r digwyddiad agoriadol ar gyfer Adref heddiw. Roedd eich presenoldeb a’ch ymgysylltiad wedi gwneud yr achlysur yn un gwirioneddol egnïol, ac rydym yn ddiolchgar am eich cymorth. Bydd eich cyfraniad tuag at yr eitemau hyn yn cael effaith sylweddol ar fywydau’r unigolion ifanc hyn wrth iddynt bontio i fyw’n annibynnol. Diolch i chi am eich haelioni ac am ystyried ein hachos.”

]]>
2025-03-18_Adref Opening 5
2025-03-18

Roedd Sacyr wrth ei fodd yn cymryd rhan unwaith eto yn Nhwrnamaint Pêl-droed Business Fives gyda dau dîm talentog, un yng Nghanolfan Gôl, Caerdydd ar 26 Chwefror, ac un arall yn y Sighthill Powerleague, Caeredin ar ddydd Gwener 21 Chwefror.

Eleni, roedd staff Sacyr yn falch o gefnogi achos agos at eu calonnau: Cymdeithas Dai YMCA Caerdydd, Cyf. Mae’r sefydliad anhygoel hwn yn gweithio’n ddiflino i dorri’r cylch digartrefedd a grymuso unigolion i gyflawni eu potensial llawn. Mae’n darparu llety diogel â chymorth, ac yn cynnal rhaglenni wedi’u teilwra sy’n helpu pobl i ailadeiladu eu bywydau, sicrhau annibyniaeth, a ffynnu. Mae ei ymrwymiad yn ymestyn i gefnogi pobl ifanc dan anfantais trwy fentrau megis mentora ieuenctid, addysg perthnasoedd iach, a chymorth ar gyfer gofalwyr ifanc. Trwy fuddsoddi yn y rhaglenni hyn, mae’n sicrhau newid parhaus ac yn meithrin cymunedau cryfach, mwy cynhwysol.

Roedd chwaraewr canol cae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, David Turnbull, yn y digwyddiad yn rôl siaradwr gwadd ac i gyflwyno’r gwobrau. Roedd y digwyddiad yng Nghaerdydd wedi codi’r swm anhygoel o £2,887 ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol, gyda’r cyfanswm cyfunol ar gyfer y ddau ddigwyddiad yn codi dros £8,000 i gefnogi’r rheiny y mae arnynt ei angen fwyaf.

Dywedodd Cameron Orr, y Rheolwr Datblygu Busnes ar gyfer Business Fives, “Diolch am fod yn rhan o’n Digwyddiad Business Fives yng Nghaerdydd, roedd yn wych bod tîm Sacyr wedi cymryd rhan, a llongyfarchiadau mawr i Connor, enillydd gwobr unigol Sgoriwr y Nifer Uchaf o Goliau.”

]]>
2025-03-17_Football (1).jpg
2025-03-17

Ar 23 Ionawr, aeth aelodau o dîm Budd Cymunedol Sacyr i un o ddigwyddiadau’r diwydiant a oedd â’r nod o ddwyn ynghyd sefydliadau yn y sector adeiladu a’r rhwydwaith sgiliau a hyfforddiant ledled Cymru. Roedd yn llwyfan i drafod pynciau hanfodol megis:

  • Cyllid a grantiau ar gyfer datblygu ac uwchsgilio staff: Y modd y gall sefydliadau gyrchu cymorth ariannol i hyfforddi a datblygu eu gweithlu, gan sicrhau bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i fodloni’r galw ym maes adeiladu ’nawr ac yn y dyfodol.
  • Goresgyn rhwystrau i recriwtio: Mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau yn y diwydiant a’r heriau a wynebir wrth ddenu a chadw talent, ynghyd â datrysiadau ar gyfer gwneud y sector yn fwy apelgar i amrywiaeth eang o unigolion sy’n chwilio am swyddi.
  • Y dirwedd adeiladu yn y dyfodol: Archwilio tueddiadau ac arloesedd ym maes adeiladu, yn cynnwys arferion cynaliadwyedd, digideiddio, ac effaith technolegau esblygol ar y diwydiant.
  • Iechyd meddwl a niwroamrywiaeth yn y gweithle: Meithrin amgylchedd cynhwysol sy’n cefnogi llesiant meddyliol ac unigolion niwroamrywiol, gan sicrhau bod gweithleoedd adeiladu yn groesawgar, yn gefnogol, ac yn gynhyrchiol i bawb.
  • Darparu gwerth cymdeithasol trwy’r gadwyn gyflenwi: Y modd y gall busnesau ddefnyddio eu cadwyni cyflenwi i lywio effaith gymdeithasol, o hyrwyddo’r broses o greu swyddi lleol, i wella gweithredu cymunedol trwy fentrau cymdeithasol.

Yn ogystal â hyn, roedd yna ddigon o gyfleoedd i rwydweithio ac ymgysylltu ag amrywiol randdeiliaid sy’n darparu cymorth yn y meysydd hyn megis Go Construct, Gyrfa Cymru, a chynrychiolwyr o sefydliadau addysg bellach. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn gallu trafod sut i weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau a chysoni eu strategaethau hyfforddi ag anghenion y diwydiant.

Roedd yna nifer nodedig o bobl yn bresennol yn y digwyddiad, gyda 170 o fynychwyr o’r sector adeiladu a meysydd perthnasol wedi dod ynghyd. Darparodd y gynhadledd ofod gwych i ddysgu oddi wrth eraill, rhannu arfer gorau, a chael dirnadaeth werthfawr o sut i wella’r ffordd y mae busnesau’n ymdrin â heriau, yn symleiddio gweithrediadau, ac yn cyflawni targedau allweddol. Roedd yn amlwg o’r syniadau a’r profiadau a gyfnewidiwyd fod cydweithredu ar draws sefydliadau yn allweddol wrth fynd i’r afael â heriau dybryd recriwtio, hyfforddi, a datblygu yn y diwydiant.

Yn y llun isod, o’r chwith i’r dde:

Tim Balcon, Prif Swyddog Gweithredol, CITB

Deborah Madden, Cyfarwyddwr Gweithredol, CITB

Danny Clarke, Cyfarwyddwr Ymgysylltu, CITB

Katie Hathaway, Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Budd i’r Gymuned, Sacyr UK

Julia Stevens, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Cymru, CITB

]]>
CITB event (1).jpg
2025-03-14

Yn adeilad y Pierhead ar 22 Ionawr, cyhoeddodd Sacyr ei fenter gymunedol â'r bwriad o gefnogi unigolion sy’n cyrchu ei lwyfan cymunedol sy’n torri tir newydd yng Nghaerdydd a’r cyffiniau. Yn rhan o’r fenter hon, bu Sacyr yn cydweithredu â Mark Wilding o gwmni Concept Management i brynu 40 o liniaduron wedi’u hadnewyddu, a hynny mewn ymdrech i ddileu rhwystrau cychwynnol i fynediad i’r rhyngrwyd a meithrin cymuned ar-lein gadarn.

Bydd y gliniaduron yn cael eu darparu’n rhad ac am ddim i sefydliadau cymunedol, gwirfoddol a chymdeithasol, ac mae sawl un eisoes wedi’i glustnodi ar gyfer sefydliadau amlwg megis Llamau, Sefydliad Cymunedol Rygbi Caerdydd, NDEAS (Gwasanaethau Menter a Chyflawniad Amrywiaeth Cenedlaethol), Sunflower Lounge, elusen Medsheds, a’r YMCA.

Ar ôl cael rhodd o liniaduron, dywedodd Samantha Davies yn Hosbis y Ddinas, “Roeddwn am neilltuo eiliad i ddiolch i chi a’r tîm yn Sacyr am eich rhodd hael o liniaduron i gefnogi ein hadran wirfoddoli. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich caredigrwydd, a bydd y rhain yn gwneud gwahaniaeth enfawr.”

Nid yn unig y mae’r cydweithrediad hwn yn cefnogi sefydliadau cymunedol gyda’u hymdrechion, ond mae hefyd yn cyfrannu at yr economi gylchol trwy ddarparu technoleg wedi’i hadnewyddu. Mae pawb sy’n rhan o’r fenter yn teimlo’n gyffrous wrth weld yr effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael o ran dod â phobl ynghyd a chreu cymuned ar-lein ffyniannus yng Nghaerdydd.

]]>
laptop initiative (1).jpg
2025-03-13

Ar flaen y gad o ran prosiect Canolfan Ganser Newydd Felindre, mae Sacyr yn falch o fod wedi creu hanes gyda thair menyw yn arwain y ffordd. Mae Maria Ortega Carreras, Elena Castro Blanco, a Belén Lerma Inguanzo yn dal y rolau arweinyddiaeth allweddol Cyfarwyddwr Prosiectau, Cyfarwyddwr Adeiladu, a Rheolwr Adeiladu, yn y drefn honno, sy’n arwyddocaol am mai dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd yn y diwydiant.

I ddathlu ‘Wythnos Menywod ym Maes Adeiladu 2025’, bu i Sacyr gydweithredu â’i bartner gwerthfawr yn y gadwyn gyflenwi ‘SGM Waste Management’ i ddylunio sgip a oedd yn arddangos talent a sgiliau menywod sy’n rhan o’r prosiect ac yn meithrin ymwybyddiaeth o’r ystadegau gwych o gymharu â’r cyfartaledd ledled y DU.

Mae Sacyr yn creu hanes yn y sector adeiladu trwy fod yn arweinydd amlwg o ran amrywiaeth a chynhwysiant ymhlith y rhywiau. Gyda chyfanswm nodedig o 30% o’r gweithlu yn fenywaidd yn nhîm prosiect canolfan ganser newydd Felindre, mae hyn wedi dyblu cyfartaledd y diwydiant yn y DU, sef cynrychiolaeth o 15% o blith menywod ym maes adeiladu. Trwy ei bartneriaeth â Chonsortiwm Acorn, yn cynnwys Kajima, abrdn, a Banc Datblygu Cymru, mae Sacyr yn chwalu rhwystrau ac yn profi nad oes yna nenfydau gwydr mewn golwg ar gyfer menywod yn y diwydiant adeiladu, gan osod safon newydd ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

]]>
2025-03-12_Celebrating a Milestone in the UK Construction Industry.jpg
2025-03-12

Mae Sacyr yn llawn cyffro i gyhoeddi bod ei gyfleoedd newydd i brentisiaid bellach yn fyw!

Mae 6 swydd ar gael:

Mae'r rolau hyn yn rhoi cyfle gwych i fagu profiad rhagorol ar brosiect adeiladu unigryw, uchel ei broffil gyda thîm o arbenigwyr. Bydd y prentisiaid yn cael profiad amhrisiadwy yn y gwaith wrth weithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ac ennill cyflog byw. Mae’r cyfleoedd yn agored i bobl o unrhyw oedran, cefndir neu brofiad, ac ar ôl cael eu cyflogi, bydd y prentisiaid yn cael cefnogaeth, arweiniad a gofal bugeiliol agos parhaus gan ein tîm Budd Cymunedol i sicrhau bod ganddynt bopeth y mae ei angen arnynt i wneud eu profiad yn gwbl gadarnhaol a buddiol.

Mae Jo o’r Tîm Budd Cymunedol wedi trefnu dwy Sesiwn Gwybodaeth am Brentisiaethau i’w cynnal yn Hwb a Llyfrgell yr Eglwys Newydd ddydd Iau 13 a dydd Iau 20 Mawrth rhwng 1.00pm a 6.00pm. Sesiynau galw heibio yw’r rhain lle gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am y cyfleoedd gael sgwrs anffurfiol â Jo. Nid oes angen apwyntiad, gall aelodau o'r cyhoedd droi i fyny bryd bynnag sy'n gyfleus iddynt a chael yr holl wybodaeth y gallai fod arnynt ei hangen i symud ymlaen a hyd yn oed wneud cais yn y fan a'r lle!

]]>
2025-03-12_Apprenticeships Information Session (1).jpg

We want to inform community residents that our construction team will be working extended hours overnight on Tuesday 11 March 2025 to carry out the necessary power floating of a slab after the concrete pour. In addition, our team will start onsite at 7am in order to minimise disruption and comply with the embargo restrictions on Park Road. We expect minimal disruption and appreciate your understanding and cooperation during this time. 
 
Thank you for your patience.
 
]]>
Información (1)
2025-03-10

Rydym am roi gwybod i drigolion y gymuned y bydd ein tîm adeiladu yn gweithio oriau estynedig o 6pm i 10pm yn ystod gweddill yr wythnos gyfredol a’r wythnos sydd i ddod (yr wythnos sy'n diweddu ar 7 Mawrth a'r wythnos sy'n dechrau ar 10 Mawrth) i gyflawni gweithgareddau yn unol ag eitem 4 y caniatâd Adran 61 a roddwyd. 

Ymddiheurwn am unrhyw darfu, ac rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn. 

Diolch i chi am eich amynedd.

]]>
Información (1)
2025-03-06

Rydym am roi gwybod i drigolion y gymuned y bydd ein tîm adeiladu yn gweithio oriau estynedig dros nos, nos Fawrth 4 Mawrth er mwyn gwneud gwaith angenrheidiol gyda'r fflôt pŵer ar un o slabiau'r islawr ar ôl tywallt llwyth o goncrit.

Rydym yn disgwyl y bydd y gwaith yn tarfu cyn lleied â phosibl, ac rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn. 

Diolch i chi am eich amynedd.

]]>
Información (1)
2025-03-04

Dymunwn roi gwybod i breswylwyr y gymuned na fydd ein tîm adeiladu yn gweithio oriau estynedig nos Fercher 26 Chwefror, fel y bwriadwyd i ddechrau. Bydd y gwaith sydd i’w wneud mewn perthynas â llyfnhau a lefelu slabiau yn cael ei gyflawni yfory, 27 Chwefror, yn lle. Yn ogystal, bydd y tîm yn dechrau ar y safle am 7 a.m. er mwyn achosi cyn lleied o darfu â phosibl.

Rydym yn disgwyl mai bach iawn fydd y tarfu, ac rydym yn ddiolchgar am eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn.

Diolch i chi am eich amynedd.

]]>
Información (1)
2025-02-26

Dymunwn roi gwybod i breswylwyr y gymuned y bydd ein tîm adeiladu yn gweithio oriau estynedig yn ystod nos Lun 24 Chwefror a nos Fercher 26 Chwefror i wneud gwaith angenrheidiol i lyfnhau a lefelu slabiau yn dilyn arllwysiadau mawr o goncrit. Hefyd, bydd y tîm yn dechrau gweithio ar y safle am 7 a.m. er mwyn achosi cyn lleied o darfu â phosibl a chydymffurfio â chyfyngiadau’r embargo ar Heol y Parc.

2025-02-24

Rydym am roi gwybod i drigolion y gymuned y bydd ein tîm adeiladu yn gweithio oriau estynedig ddydd Mercher 19 Chwefror er mwyn gwneud gwaith angenrheidiol gyda'r fflôt pŵer ar ôl tywallt llwyth mawr o goncrit, a dydd Iau 20 Chwefror i ganiatáu i drydydd parti ar ran Dŵr Cymru fynd ati i gysylltu'r prif gyflenwad dŵr sy'n croesi Safle Felindre. 

Fel bob amser, diolch am eich cefnogaeth.

]]>
Información (1)
2025-02-19

Roeddem am neilltuo eiliad i roi gwybod i chi am rai newidiadau i'n hamserlen adeiladu. Ar ôl gweithio'n agos gyda'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ar gyfer Cyngor Caerdydd, rydym wedi llunio cynllun i helpu i darfu cyn lleied â phosibl ac osgoi oedi diangen er mwyn sicrhau bod Canolfan Ganser Newydd Felindre yn weithredol ar y cyfle cyntaf i gefnogi'r rhai y mae arnynt ei hangen fwyaf.
 
Rydym wedi coladu rhestr o weithgareddau ac amserlenni sy'n caniatáu gweithio y tu allan i oriau er mwyn i'r rhaglen adeiladu allu parhau ar y trywydd iawn. Cafwyd y gymeradwyaeth ar ddydd Llun, 11 Chwefror. Ymddiheuriadau am beidio â rhoi gwybod am hyn yn gynharach. Yn ogystal â'r gymeradwyaeth ar gyfer oriau gwaith estynedig tan y Pasg, rhoddir gwybod am unrhyw waith y mae'n ofynnol ei wneud y tu allan i oriau gwaith arferol (8am-6pm) trwy'r newvelindre.info a'r llwyfan newydd, Llwyfan Cymunedol Acorn/Sacyr, y gallwch gofrestru ar ei gyfer trwy ddilyn y ddolen isod:
https://acorn-sacyr.dreams-lms.org/rcd/login.php

Wedi i chi gofrestru, byddwch yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf trwy hysbysiadau ar gyfer gwaith arfaethedig, a byddwn yn gwneud pob ymdrech i roi o leiaf 48 awr o rybudd i chi cyn i waith o'r fath gychwyn. 
Ar adegau, byddwn yn dechrau gwaith am 7am. Weithiau, gall rhai gweithgareddau adeiladu nad ydynt yn creu sŵn uchel, er enghraifft cydosod barrau dur cyfnerthedig (rebar) a chaeadau, symud cyfarpar, a thywallt concrit, gael eu cynnal ar ddydd Sadwrn rhwng 1pm a 6pm. 

I sicrhau bod defnydd effeithiol yn cael ei wneud o'r craeniau tŵr yn ystod oriau gwaith, ac i flaenoriaethu iechyd a diogelwch ein gweithlu pan fo swmp ein gwaith yn cael ei wneud, efallai y bydd gwaith logisteg, codi, glanhau a pharatoi ychwanegol yn ofynnol wedi i'r prif weithgareddau adeiladu gael eu cwblhau. Cafwyd cymeradwyaeth i'r gwaith hwn gael ei wneud rhwng 6pm a 10pm yn ystod yr wythnos. Yn olaf, yn achlysurol bydd llwythi mawr o goncrit yn cael eu tywallt a bydd gwaith gorffen concrit yn cael ei wneud sy'n gysylltiedig ag elfennau penodol o'r seilwaith, ond nid yn aml. 
Mae manylion pellach am y cytundebau adran 61 a gymeradwyir i'w cael yma.

]]>
Información (1)
2025-02-14

Mae Sacyr UK, mewn partneriaeth ag Acorn, wedi lansio platfform cymunedol ar-lein arloesol sydd wedi’i gynllunio i wella cydweithrediad, datblygu sgiliau, a sbarduno effaith gymdeithasol o amgylch Canolfan Ganser newydd Felindre.
Cyflwynodd Julie Morgan AS, Aelod Senedd dros Ogledd Caerdydd, y platfform yn swyddogol mewn digwyddiad yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, yng nghwmni cymdeithion elusennol, cynghorwyr lleol, sefydliadau gwirfoddol, a phartneriaid y gadwyn gyflenwi.

Mae'r platfform yn cysylltu'r bobl yn y gymuned â'r prosiect a'r bobl sy'n ei adeiladu. Mae'n cefnogi sefydliadau cymdeithasol, gwirfoddol a chymunedol, gan eu cysylltu â gwirfoddolwyr, ac mae hefyd yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth i geiswyr gwaith lleol, yn darparu mynediad at lyfrgell offer, ac yn cynnig tiwtorialau STEM a mwy. Trwy'r fenter hon, nod Sacyr UK yw gadael etifeddiaeth barhaus y tu hwnt i'r gwaith adeiladu, gan gryfhau cysylltiadau cydweithredol a chreu cyfleoedd newydd i gymuned De Cymru.

Fel rhan o gonsortiwm ACORN, mae Sacyr yn darparu Canolfan Ganser newydd Felindre – a fydd yn un o ysbytai mwyaf cynaliadwy’r DU. Bydd y ganolfan nid yn unig yn darparu uwch driniaethau ond hefyd yn arwain yn genedlaethol ac yn rhyngwladol o ran addysg, ymchwil ac arloesedd ym maes canser. Disgwylir i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau yn 2027.
Darganfyddwch ragor am y fenter hon yma: https://acorn-sacyr.dreams-lms.org/rcd/login.php

]]>
Visitors trying out the new Acorn platform - New Velindre.jpg
2025-02-05

We want to inform community residents that our construction team will be working extended hours on Tuesday 4th February, Wednesday 5th February, and Friday 7th February to carry out necessary works for power floating after two large concrete pours.

In addition,  the team will start onsite at 7am in order to minimise disruption and comply with the embargo restrictions on Park Road.

We appreciate your understanding and cooperation during this time.
Thank you for your patience.

]]>
Información (1)
2025-02-04

Rydym am roi gwybod i drigolion y gymuned y bydd ein tîm adeiladu yn gweithio oriau estynedig ddydd Iau 30 Ionawr er mwyn gwneud gwaith angenrheidiol gyda'r fflôt pŵer ar ôl tywallt dau lwyth mawr o goncrit.

At hynny, bydd y tîm yn dechrau ar y safle am 7am er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl a chydymffurfio â chyfyngiadau'r embargo ar Heol y Parc.

Rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn.

Diolch i chi am eich amynedd.

]]>
Información (1)
2025-01-29

Breadcrumb