Dyfodol Gofal Iechyd Cynaliadwy
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn 1994 i ddarparu gwasanaethau canser a gwaed arbenigol yng Nghymru. Mae'n rhedeg Gwasanaeth Canser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru.
Gweledigaeth yr Ymddiriedolaeth ar gyfer Canolfan Ganser newydd Felindre yw bod yn esiampl o ddatblygu Cynaliadwy gan hybu rhagoriaeth mewn gwasanaethau canser yn y dyfodol a rhagori ar ddisgwyliadau cenedlaethau'r dyfodol a fydd yn ei defnyddio.
Bydd Canolfan Ganser newydd Felindre, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn cyflawni pob un o’r saith nod llesiant yn y ddeddf honno.
Trwy waith dylunio arbenigol, bydd ein canolfan ganser fodern, ecogyfeillgar yn uchafbwynt o ran arloesedd ym maes gofal iechyd yn y DU. Gan ddefnyddio ein harbenigedd a'n hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy, gwnaed pob ymdrech i wneud y defnydd mwyaf posibl o ddeunyddiau lleol a lleihau ein hôl troed carbon.
Bydd y ganolfan ragoriaeth hon yn hybu amgylchedd iachaol i gleifion, teuluoedd a staff, gan flaenoriaethu'r dirwedd naturiol o'i chwmpas a chyfrannu at ddyfodol gwell i bobl Cymru.