Y Tîm Budd Cymunedol yn Ymweld â Gerddi’r Santes Fair
Ymwelodd dau aelod o’r Tîm Budd Cymunedol â Gerddi’r Santes Fair yn Heol yr Hen Eglwys, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, yn ddiweddar i gwrdd â gwirfoddolwyr o Gyfeillion Gerddi’r Santes Fair a dysgu mwy am y gwaith sy’n cael ei wneud i adfer y man cymunedol pwysig hwn. Roedd yr ymweliad yn gyfle i drafod yr hyn a gyflawnwyd gan y grŵp, yr heriau presennol, a meysydd lle gellid cynnig cefnogaeth yn y dyfodol, gan gynnwys y posibilrwydd o adnewyddu neu osod gât newydd yng nghefn yr hen fynwent er mwyn gwella mynediad, diogelwch, a golwg gyffredinol y safle.
Mae Gerddi’r Santes Fair ar safle hanesyddol eglwys a mynwent wreiddiol y Santes Fair, a fu’n gwasanaethu’r gymuned leol am dros 500 mlynedd. Ar ôl codi eglwys newydd yn 1885 a dymchwel yr hen un yn 1904, cafodd y safle ei esgeuluso am gyfnod maith a thyfodd yn wyllt. Ar ôl i Gyngor Caerdydd gymryd y safle drosodd yn 1972, cafodd yr ardal ei thrawsnewid yn ardd gyhoeddus, gan gadw nodweddion treftadaeth pwysig megis rhesi o gerrig beddi a choed aeddfed. Agorwyd y gerddi’n swyddogol yn 1974, a chawsant gydnabyddiaeth yn ddiweddarach ar ffurf gwobr Cymru yn ei Blodau. Yn y degawdau dilynol, fodd bynnag, o ganlyniad i lai o waith cynnal a chadw, gwelwyd dirywiad yng nghyflwr y safle, ynghyd ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a llai o ddefnydd cymunedol.
Mewn ymateb i hyn, aeth y trigolion lleol ati yn 2017 i helpu i adfer ac adfywio’r gerddi. Aelodau o Sefydliad y Merched yr Eglwys Newydd oedd yn arwain y gwaith ar y dechrau, a thrwy weithio mewn partneriaeth ag Adran Parciau Cyngor Caerdydd arweiniodd eu hymdrechion at sefydlu Cyfeillion Gerddi Eglwys y Santes Fair yn ffurfiol yn 2019.
Heddiw, mae’r sefydliad sy’n cael ei arwain gan wirfoddolwyr yn cydlynu tua 20 o wirfoddolwyr rheolaidd ac yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gynnal a gwella’r safle hanner acer. Mae’r grŵp yn codi ymwybyddiaeth ac yn casglu arian, yn cefnogi gweithgareddau cynnal a chadw rheolaidd, ac yn gweithio er mwyn gwella arwyddocâd hanesyddol a bioamrywiaeth y gerddi, gan sicrhau eu bod yn parhau’n ased cymunedol gwerthfawr.
Mae grant o £1,000 gan Thrive yn ddiweddar wedi cryfhau’r ymdrechion hyn ymhellach trwy ariannu man storio diogel ac offer garddio hanfodol. Mae’r buddsoddiad hwn wedi galluogi gwirfoddolwyr wedi’u hawdurdodi i ymgymryd â gweithgareddau cynnal a chadw rhwng sesiynau gwaith wedi’u trefnu, gan helpu i gynnal cynnydd a chynyddu perchnogaeth gymunedol o’r man hwn.
Trwy ymroddiad y gwirfoddolwyr a chefnogaeth partneriaid lleol, mae Cyfeillion Gerddi’r Santes Fair wedi llwyddo i drawsnewid y safle yn fan gwyrdd diogel, croesawus, a llewyrchus. Mae eu gwaith yn parhau i sicrhau cydbwysedd rhwng cadw treftadaeth gyfoethog y gerddi ac anghenion y gymuned leol, gan ddod â budd i drigolion, ymwelwyr, a bywyd gwyllt fel ei gilydd.
