Aelodau o’r Cyngor Lleol yn Ymweld â Safle Canolfan Ganser Newydd Felindre
Yn ddiweddar, croesawodd Canolfan Ganser Newydd Felindre aelodau o’r cyngor lleol ar ymweliad safle, gan gynnig cyfle i ddysgu mwy am y datblygiad a gweld y cynnydd sy’n cael ei wneud ar y safle yn uniongyrchol.
Cychwynnodd yr ymweliad gyda chyflwyniad gan Vincenzo Nigro, Katie Hathaway ac Elena Castro Blanco, a fu’n rhannu dirnadaeth o’r weledigaeth sy’n sail i’r cyfleuster newydd a sut y mae’n wahanol i ganolfan ganser neu ysbyty traddodiadol. Soniwyd am y ffordd y mae’r dyluniad wedi cael ei seilio’n ofalus ar brofiad y claf, gyda nodweddion megis mwy o olau naturiol, balconïau hygyrch, ardaloedd dydd eang a bwyty cyhoeddus, a’r holl elfennau hyn yn ceisio creu amgylchedd mwy croesawgar a llai ynysig i gleifion a’u teuluoedd.
Bu’r tîm hefyd yn trafod ymrwymiad y prosiect i iechyd a diogelwch, cyfrifoldeb amgylcheddol, yn ogystal ag ymgysylltu cymunedol. Dangoswyd i aelodau’r Cyngor sut y mae’r datblygiad yn gweithio er mwyn cynnig budd i gymunedau lleol, gan integreiddio gyda’r ardal o’i chwmpas a diogelu’r amgylchedd naturiol lle bynnag y bo modd.
Dilynwyd hyn gan sesiwn holi ac ateb, lle cynigiwyd y cyfle i ymwelwyr fynegi unrhyw bryderon a chael sicrwydd pellach am y cyfleuster newydd a’i effaith ehangach.
Yn dilyn y cyflwyniad, rhoddwyd y PPE priodol i aelodau’r cyngor cyn iddynt fynd ar daith dywys o gwmpas y safle. Dan arweiniad Vincenzo Nigro ac Elena Castro Blanco, a chynrychiolwyr o’r Tîm Buddion Cymunedol, roedd y daith wedi dangos sawl agwedd allweddol ar y prosiect.
