Asset Publisher

09/09/2026

Gweithdy Artistiaid Comics Jambori’r Haf

Heddiw, cafodd Jambori’r Haf y fraint o groesawu Mike Collins, artist adnabyddus gyda Marvel a DC Comics. Cafodd ei gyflwyno gan Dîm Budd Cymunedol Sacyr a Noddfa wrth iddo baratoi i arwain gweithdy dylunio comics ar gyfer pobl ifanc leol. 

Cyflwynodd Mike sesiwn ddiddorol ac ysbrydoledig, gan egluro technegau amrywiol a ddefnyddir gan artistiaid comics proffesiynol i gynllunio dyluniadau cymeriadau, cyfosodiadau, ac ystumiau yn gyflym. Roedd rhai o’i ddulliau’n cynnwys defnyddio cymeriadau wedi’u gwneud o linellau syml fel sylfaen ar gyfer osgo corff, gan arbrofi â llythrennau a siapiau i ddylunio cymeriadau unigryw, a hyd yn oed osod dotiau yma ac acw ar dudalen i helpu i bennu ystumiau a chyfansoddiad cymeriadau. 

Dangosodd hefyd sut y gall cefndiroedd syml a thechnegau fframio ychwanegu cymaint at y dull o adrodd storïau. Er enghraifft, gall defnyddio dinaslun llai y tu ôl i gymeriad bwysleisio ei faint, tra bo onglau a llinellau dynamig yn gallu creu ymdeimlad o gyflymder a symud. 

Yn ddiweddarach yn y gweithdy, rhannodd Mike enghreifftiau o’i bortffolio proffesiynol, gan arddangos paneli comic trawiadol a gwaith bwrdd stori. Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys portread un ffrâm o hanes bywyd Neil Armstrong a byrddau stori a grëwyd ar gyfer Doctor Who. Eglurodd sut y defnyddir techneg byrddau stori mewn gwahanol rannau o’r diwydiant er mwyn cynllunio coreograffi golygfeydd, onglau camera, ac adrodd storïau gweledol cyn i’r ffilmio ddechrau. 

Yn dilyn yr arddangosiadau, gwahoddwyd y cyfranogwyr i greu eu cymeriadau eu hunain gan ddefnyddio’r technegau a gyflwynwyd gan Mike. Rhoddodd y sesiwn gipolwg gwerthfawr i bobl ifanc ar y broses greadigol y tu ôl i’r llyfrau comics ac adrodd storïau gweledol, gan eu hannog i ddatblygu eu sgiliau artistig a’u dychymyg eu hunain. 

Roedd y gweithdy’n llwyddiant ysgubol, ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o artistiaid ac adroddwyr storïau trwy ddysgu ymarferol ac arweiniad arbenigol gan un o’r crewyr comics uchaf ei barch yn y diwydiant.