Ymweliad Safle a Chyfweliad ITV
Croesawodd Mai Harris, un o ymgeiswyr yr Academi Entrepreneuraidd, ITV News i’r safle yn ddiweddar fel yn o eitem nodwedd am ei thaith ysbrydoledig o fod yn glaf canser i fod yn ddarpar entrepreneur. Gan dynnu ar ei phrofiad ei hun o gael triniaeth ar gyfer lewcemia, mae Mai wedi datblygu cysyniad busnes sy’n canolbwyntio ar greu dillad hygyrch i gleifion sy’n cael triniaeth mewn ysbyty. Nod ei dyluniadau arloesol yw caniatáu mynediad meddygol ar gyfer triniaeth a monitro heb fod angen torri, tynnu neu ddifetha dillad, gan helpu cleifion i gynnal cyfforddusrwydd ac urddas trwy gydol eu siwrnai gofal. Trwy gefnogaeth yr Academi Entrepreneuraidd, mae Mai wedi gweithio i ddatblygu hyfywedd masnachol ei syniad, gan archwilio datblygu cynnyrch, cyfleoedd ar gyfer gweithgynhyrchu a llwybrau i’r farchnad.
Yn ystod yr ymweliad, bu ITV yn ffilmio gweithgareddau a oedd yn rhan o’r rhaglen ac yn cyfweld Arweinydd y Cwrs Entrepreneuraidd, Dan Biddle, a siaradodd am ei angerdd dros gefnogi darpar entrepreneuriaid a’r effaith hirdymor y bwriedir i’r cwrs ei chael ar gyfranogwyr. Eglurodd Dan sut mae’r academi yn arfogi unigolion â’r sgiliau ymarferol, yr hyder a’r wybodaeth am fyd busnes sy’n ofynnol i drawsnewid profiadau personol a syniadau arloesol yn fentrau hyfyw. Dangoswyd stori Mai fel enghraifft o sut y gellir defnyddio entrepreneuriaeth i greu datrysiadau ystyrlon i heriau yn y byd go iawn a chreu effaith gymdeithasol gadarnhaol ar yr un pryd.
Yn dilyn y cyfweliadau yn yr ystafell ddosbarth, aeth ITV gyda Mai ar hyd llwybr cerdded y safle i ffilmio rhagor o gyfweliadau a chlipiau ychwanegol yn erbyn cefnlen y safle newydd sy’n cael ei ddatblygu ar gyfer Canolfan Ganser Felindre. Roedd y clipiau ffilm yn dangos siwrnai entrepreneuraidd Mai a’r cynnydd sylweddol sy’n cael ei wneud ledled y safle, gan roi ymdeimlad o faint ac uchelgais y cyfleuster i’r gwylwyr. Roedd yr eitem nodwedd hefyd yn cydnabod y cymorth a roddwyd gan Sacyr, sydd wedi helpu i greu amgylchedd lle gall cynlluniau fel yr Academi Entrepreneuraidd ysbrydoli a chefnogi’r genhedlaeth bresennol o entrepreneuriaid a chenedlaethau’r dyfodol.
