Asset Publisher

28/04/2025

Sacyr UK yn dathlu ei stori llwyddiant gyntaf bythefnos yn unig ar ôl lansio llwyfan cymunedol

Mae Sacyr UK, y contractwr sy'n adeiladu Canolfan Ganser Newydd Felindre, wedi rhannu ei stori llwyddiant gyntaf ynghylch cyflogadwyedd ers lansio ei lwyfan cymunedol ar-lein newydd, gan helpu dyn lleol i gamu ar yr ysgol yrfa. 

Dechreuodd Ben Shears, 19 oed o’r Tyllgoed, Caerdydd, yn ei swydd prentis trydanol i WysePower yn dilyn gwneud cais amdani trwy lwyfan Sacyr UK. Mae’r llwyfan, sy’n helpu i greu gwerth cymdeithasol yn ogystal â sicrhau mwy o waith cydweithredol â'r gymuned leol yng Nghanolfan Ganser Newydd Felindre a’r cyffiniau, ar gael i unrhyw un 14 oed a hŷn; mae’n darparu gofod lle gall pobl wneud popeth o saernïo eu CV a chael mynediad at fyrddau swyddi, ynghyd â chynnig tiwtorialau ar draws ystod o bynciau ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. 

WysePower yw darparwr gorau’r DU o wasanaethau safle dros dro cynaliadwy ac uchel eu safon, ac yn ystod ei brentisiaeth bydd Ben yn mynychu Coleg Caerdydd a’r Fro am ddiwrnod yr wythnos, ac yn meithrin llawer o brofiad ymarferol ar y safle yn ystod y pedwar diwrnod arall i helpu i ddatblygu ei sgiliau ymarferol, a hynny dan fentoriaeth trydanwyr cymwys. 

Ar ei benodiad newydd, dywedodd Ben: “Rwy’n edrych ymlaen at ddechrau fy swydd newydd o fod yn brentis trydanol i WysePower, ac yn barod i ddysgu llawer o sgiliau newydd a fydd yn fy helpu i adeiladu fy ngyrfa ar gyfer y dyfodol.

“Rwy’n ddiolchgar i Sacyr UK am ei lwyfan, llwyfan a ganiataodd i mi wneud cais am y swydd hon, a chredaf ei bod yn fenter gadarnhaol iawn i bobl leol eraill sydd am ddatblygu eu gyrfa.”

Dywedodd Tony Crook, Rheolwr De-orllewin Lloegr a De Cymru WysePower, “Ben yw’r ail brentis i WysePower ei gyflogi o ranbarth Caerdydd eleni. Daethpwyd o hyd i’n dau brentis trwy fentrau ymgysylltu cymunedol Sacyr UK, ac rydym yn ddiolchgar iawn ein bod yn rhan o brosiect ac iddo dîm mor unigryw a blaengar.”

Dywedodd Katie Hathaway, Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Budd Cymunedol Sacyr UK yn y Ganolfan Ganser: “Mae'n wych gweld, yn dilyn penodi Ben gan WysePower, fod ein llwyfan cymunedol eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Gobeithiwn y bydd yna lawer mwy o straeon tebyg, ac edrychwn ymlaen at weld rhagor o bobl yn gwneud y gorau o'n llwyfan i'w helpu i sicrhau mwy o gyfleoedd a meithrin sgiliau newydd.

“Rydym hefyd yn bwriadu datblygu’r llwyfan ymhellach wrth i fwy o bobl ei ddefnyddio, a gobeithiwn y bydd yn parhau i ddod ag ystod eang o fuddion i’n cymuned leol ac yn ardal ehangach De Cymru.”