Platfform cymunedol
Mae Sacyr UK, mewn partneriaeth ag Acorn, wedi lansio platfform cymunedol ar-lein arloesol sydd wedi’i gynllunio i wella cydweithrediad, datblygu sgiliau, a sbarduno effaith gymdeithasol o amgylch Canolfan Ganser newydd Felindre.
Cyflwynodd Julie Morgan AS, Aelod Senedd dros Ogledd Caerdydd, y platfform yn swyddogol mewn digwyddiad yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, yng nghwmni cymdeithion elusennol, cynghorwyr lleol, sefydliadau gwirfoddol, a phartneriaid y gadwyn gyflenwi.
Mae'r platfform yn cysylltu'r bobl yn y gymuned â'r prosiect a'r bobl sy'n ei adeiladu. Mae'n cefnogi sefydliadau cymdeithasol, gwirfoddol a chymunedol, gan eu cysylltu â gwirfoddolwyr, ac mae hefyd yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth i geiswyr gwaith lleol, yn darparu mynediad at lyfrgell offer, ac yn cynnig tiwtorialau STEM a mwy. Trwy'r fenter hon, nod Sacyr UK yw gadael etifeddiaeth barhaus y tu hwnt i'r gwaith adeiladu, gan gryfhau cysylltiadau cydweithredol a chreu cyfleoedd newydd i gymuned De Cymru.
Fel rhan o gonsortiwm ACORN, mae Sacyr yn darparu Canolfan Ganser newydd Felindre – a fydd yn un o ysbytai mwyaf cynaliadwy’r DU. Bydd y ganolfan nid yn unig yn darparu uwch driniaethau ond hefyd yn arwain yn genedlaethol ac yn rhyngwladol o ran addysg, ymchwil ac arloesedd ym maes canser. Disgwylir i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau yn 2027.
Darganfyddwch ragor am y fenter hon yma: https://acorn-sacyr.dreams-lms.org/rcd/login.php
