Adroddiad Cyhoeddus yn dilyn yr Hacathon
Cymerodd bron 50 o randdeiliaid sy’n ymwneud â datblygu Canolfan Ganser newydd Felindre ran mewn gweithdy i feddwl am syniadau ar gyfer mentrau cymunedol a fydd yn deillio o’r prosiect.
Yn ôl ym mis Awst yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, ymgasglodd pobl o Gonsortiwm Acorn, Sacyr UK, partneriaid o sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r cyfleuster newydd, ac arweinwyr cymunedol lleol i archwilio syniadau ynghylch sut y gallai’r ganolfan ganser newydd fod o fudd i’r gymuned leol.
Rhannwyd y rhanddeiliaid yn grwpiau a rhoddwyd y dasg iddynt ddod o hyd i syniadau ynghylch materion megis iechyd meddwl, cynhwysiant digidol, sefydlogrwydd economaidd, iechyd a llesiant, cynaliadwyedd bwyd, ac ymgysylltu â’r gymuned.
Eglurodd cyfarwyddwr prosiect y Ganolfan, David Powell, fod y gweithdy, a hwyluswyd gan Cwmpas, wedi'i gynllunio i ddod â phobl ynghyd i archwilio'r adnoddau sydd ar gael i ddatrys yr her o gynnwys y gymuned leol yn y prosiect.
“Roedd yn ddiwrnod mor adeiladol, lle daeth pobl o’r un anian at ei gilydd i gynnig safbwyntiau gwahanol ar ymgysylltu â’r gymuned, yr hyn y mae ei angen ar y gymuned leol, yr hyn y gellir ei gyflawni, a phwy fydd yn elwa.
Mae trafodaethau parhaus yn cael eu cynnal â'r gymuned ehangach, a byddant yn parhau i ddigwydd dros dair blynedd nesaf y prosiect.
Ychwanegodd David Powell: “Bydd Canolfan Ganser newydd Felindre yn gyfleuster hanfodol ac amhrisiadwy i Gymru, a fydd yn darparu gofal canser o’r radd flaenaf am genedlaethau i ddod, ac rydym hefyd am i unrhyw fentrau budd cymunedol sy’n deillio ohoni fod yn hanfodol ac yn bwysig i gymdogion a ffrindiau'r ganolfan. Rydym am i'r ganolfan integreiddio'n iawn yn ei chymuned a chynnig buddion i'r rhai sy'n byw gerllaw.
Os hoffech ddod i'r gweithdy nesaf am 10am ar 30 Hydref, archebwch eich lle.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad cyhoeddus.