Asset Publisher

25/04/2025

Amrywiaeth ar waith ym mhrosiect Canolfan Ganser newydd Felindre Sacyr UK

Wrth ystyried amrywiaeth ym mhrosiect Canolfan Ganser newydd Felindre, mae'r tîm yn enghraifft fyw o'r hyn y gellir ei gyflawni, gan fynd yn groes i dueddiadau cenedlaethol ym mhob rhan o’r prosiect.

Mae tri deg y cant o dîm rheoli'r prosiect yn fenywod – dwbl y cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer prosiectau adeiladu eraill.

Mae pump y cant o dîm y safle, y rhai sydd wrthi'n gweithio ar adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre, yn fenywod – y cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer prosiectau adeiladu yw 1%.

Mae gennym hefyd ystod oedran amrywiol iawn yn gweithio ar y safle yma yn yr Eglwys Newydd, gyda phobl o bedair cenhedlaeth yn gweithio ar y safle ac yn ein swyddfeydd.

Mae yna hefyd 12 o unigolion o genhedloedd gwahanol yn gweithio ar y prosiect, o mor bell i ffwrdd ag Ynysoedd Philippines a Columbia i'r bobl hynny sy'n byw ychydig filltiroedd i ffwrdd.

A dim ond ein hystadegau ar gyfer y bobl sy'n gweithio'n uniongyrchol i Sacyr UK, sef y prif gontractwr sy'n adeiladu'r Ganolfan, ac Acorn, y consortiwm sydd wedi cefnogi'r prosiect yn ariannol, yw'r rhain. Nid ydynt yn cynnwys unrhyw un o’r cannoedd o bobl sy’n gweithio i’r degau o gwmnïau is-gontractwyr sydd hefyd yn cael eu cyflogi ar y prosiect.

Dywedodd Katie Hathaway, Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Budd Cymunedol Sacyr UK yng Nghanolfan Ganser newydd Felindre: “Mae’n wych gweld ein polisi amrywiaeth ar waith yma yng Nghanolfan Ganser newydd Felindre. Rydym yn annog pobl o bob cefndir ac oedran i ddod i weithio i ni yn ein gweithlu amrywiol, gan fod gwneud hynny’n hybu ein harloesedd ac yn denu talent newydd i’n diwydiant.

“Rydym wedi siarad yn ddiweddar am Barry, sef un o weithredwyr lifft craen ein his-gontractwr, ac sydd bellach yn 73 oed ac yn dal i weithio yma ar y safle. Mae’r profiad a’r wybodaeth y mae'n eu cyfrannu at y prosiect, yn ogystal ag i’w gyd-weithwyr yn MPS, heb eu hail.”

Ychwanegodd Katie: “Mae llawer o bobl yn credu nad yw mentrau megis yr Wythnos Menywod ym Maes Adeiladu yn werth eu hyrwyddo, ond yma yn Sacyr UK a Chanolfan Ganser newydd Felindre, rydym yn teimlo’r manteision o gael gweithlu amrywiol bob dydd, a boed i hynny  barhau.”