Dewch i gwrdd â Barry Fabian: Goruchwyliwr lifft craen 72 oed sy'n helpu i adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre
Un o oruchwylwyr y lifft craen ar brosiect Canolfan Ganser newydd Felindre yw Barry Fabian, 72 oed.
Mae Barry yn gweithio i'r is-gontractwr, MPS Crane Operators, a bydd yn cyrraedd yr oedran da hwnnw, 73 oed, ym mis Ionawr, ond mae'n dal i fod wrth ei fodd yn dod i'r gwaith bob dydd ar y safle ac yn helpu i adeiladu'r cyfleuster iechyd hwn sydd o'r radd flaenaf.
Cawsom gyfle i ddal i fyny â Barry a gofyn iddo beth sy'n ei gadw i weithio ym mhob tywydd ar safle adeiladu, pan fo'r rhan fwyaf o bobl o'r un oedran ag ef wedi hen ymddeol.
“Rydw i jyst yn mwynhau gweithio. Wrth gwrs, mae'r arian yn ddefnyddiol hefyd ac mae un o fy merched yn mynd i Melbourne i fyw y flwyddyn nesaf ac felly rwy'n cynilo i roi dechrau da iddi draw fan'na, ond hefyd, rwy'n mwynhau.
“Dydw i ddim yn llawer o yfwr, ond rydw i'n mynd allan am y cwmni o bryd i'w gilydd, ond nid mewn tafarndai fel y cyfryw, felly mae'n wych dod i'r gwaith a chael treulio'r dydd a sgwrsio â chriw da o bobl.”
Mae Barry wedi bod yn gweithio ar safleoedd adeiladu ar hyd a lled y wlad ers tua 55 mlynedd ac mae’n dweud ei fod wrth ei fodd â’r swydd: “Mae’n fy nghadw’n ffit ac yn iach, ond yn amlwg weithiau dyw e ddim cystal pan fydd yn rhaid codi yn y bore yn ystod tywydd oer iawn neu os yw'n arllwys y glaw, ond ar y cyfan rwy'n mwynhau.”
Mae’r rhan fwyaf o dîm MPS sydd ar y safle yma yng Nghanolfan Ganser newydd Felindre yn eu hugeiniau i bumdegau, ond dywed Barry fod hynny’n ychwanegu at yr atyniad o ddal ati i weithio yng nghanol ei saithdegau.
“Maen nhw'n griw da ac mae gennym ni sbectrwm eang o brofiad yma, ac felly mae rhai yn edrych i fyny ata i mae'n debyg ac yn gofyn am fy mhrofiad a'm gwybodaeth am y diwydiant. “Mae’n braf eu gweld yn gwrando, yn dysgu, ac yn symud ymlaen, ac rwy’n mwynhau eu helpu gyda hynny.”
Bydd Barry a MPS ar y safle ar gyfer hyd y prosiect wrth i waith y craen gael ei gwblhau, ac rydym ni yn Sacyr UK yn dymuno’r gorau iddo ef, a thîm MPS, ar eu prosiect nesaf, a gobeithiwn weld Barry yn parhau i weithio ac yn rhannu ei arbenigedd am flynyddoedd lawer i ddod.