Sacyr a phartneriaid yn y gadwyn gyflenwi, mewn cydweithrediad ag YMCA Caerdydd, yn cefnogi pobl ifanc sy'n wynebu'r risg o ddigartrefedd
Roedd Sacyr wrth ei fodd o gael ei wahodd i agoriad swyddogol Adref ddydd Gwener, 24 Ionawr. Dyma’r prosiect llety â chymorth diweddaraf gan yr YMCA sy’n benodol ar gyfer pobl ifanc 18-24 oed sy’n wynebu risg o brofi digartrefedd. Roedd yn ddigwyddiad arbennig iawn gyda Jo Stevens, yr Ysgrifennydd Gwladol, y llywyddu, a symudodd y preswylwyr i mewn i Adref ym mis Chwefror. Gyda chymorth dau bartner yn y gadwyn gyflenwi, sef Wysepower a Monex, sicrhaodd Sacyr fod pob fflat wedi’i gyfarparu’n llawn i ddarparu cartref croesawgar, diogel ac ymarferol. Trwy garedigrwydd ein tîm, roeddem wedi gallu darparu poptai microdon, dillad gwely, ac offer cegin newydd ar gyfer y deunaw o fflatiau i sicrhau effaith uniongyrchol a pharhaus ar y bobl ifanc yr ydym yn eu cefnogi.
Dywedodd Jade Morgan, Cyfarwyddwr Cynhyrchu Incwm yr YMCA, “Roeddwn am ddiolch o galon i chi am ddod i’r digwyddiad agoriadol ar gyfer Adref heddiw. Roedd eich presenoldeb a’ch ymgysylltiad wedi gwneud yr achlysur yn un gwirioneddol egnïol, ac rydym yn ddiolchgar am eich cymorth. Bydd eich cyfraniad tuag at yr eitemau hyn yn cael effaith sylweddol ar fywydau’r unigolion ifanc hyn wrth iddynt bontio i fyw’n annibynnol. Diolch i chi am eich haelioni ac am ystyried ein hachos.”
