Sacyr UK yn helpu Plant Caerdydd i gadw'n ffit a chael eu bwydo diolch i bartneriaeth ag URC
Ffurfiodd Sacyr UK bartneriaeth â Sefydliad Cymunedol Rygbi Caerdydd ar gyfer ei Wersylloedd Heini, Hwyl a Hansh i helpu plant o'r ddinas i fynd i wersyll haf yn Ysgol Gynradd Coryton, a hynny er mwyn iddynt ddod yn fwy egnïol ac iach yr haf hwn.
Mae'r fenter yn cefnogi plant ifanc, y mae llawer ohonynt yn dod o ardaloedd difreintiedig y ddinas, i gadw'n heini, bwyta deiet iachach, a chael diwrnod llawn hwyl. Mae'r plant sy'n mynychu'r gwersylloedd hefyd yn mwynhau brecwast a chinio maethlon, cytbwys, rhad ac am ddim trwy gydol y gwyliau chwe wythnos, gan helpu i leddfu straen ariannol ar deuluoedd yn ystod gwyliau'r haf.
Wrth sôn am y fenter, dywedodd Anna Davies, Cydlynydd Buddion Cymunedol Sacyr UK ar safle newydd Canolfan Ganser Felindre: “Mae Heini, Hwyl a Hansh yn un o nifer o raglenni gwych sy'n cael eu rhedeg gan Sefydliad Cymunedol Gleision Caerdydd ar hyd a lled De Cymru. Mae’n ymwneud â mwy nag ychydig oriau o hwyl; mae rhaglenni URC yn defnyddio pŵer chwaraeon i fynd i’r afael â rhwystrau lluosog i helpu i gynyddu llesiant, iechyd a sgiliau.”
Mae’r Gwersylloedd Heini, Hwyl a Hansh yn cael eu rhedeg ar y cyd ag Undeb Rygbi Cymru (URC) ac yn cael eu darparu gan Sefydliadau Cymunedol pedwar clwb rygbi rhanbarthol proffesiynol Cymru.
Wrth sôn am y fenter, dywedodd Nadine Griffiths o Sefydliad Rygbi Cymunedol Caerdydd: “Mae llawer o'r plant hyn yn cael prydau ysgol am ddim ac felly mae'n wych sicrhau eu bod yn cael y pryd o fwyd hwnnw, ac mae hwn yn un diwrnod yn ystod cyfnod chwe wythnos y gwyliau pan allwn eu denu allan i'r awyr agored a rhoi ychydig o hwyl iddyn nhw.”
Mae Sefydliad Cymunedol Caerdydd eisoes wedi cadarnhau bod dros 40 wedi cofrestru ar gyfer ei wersyll dros y gwyliau haf trwy Dechrau'n Deg, Sefydliad Pear Tree, a'r Rhaglen Pasbort i'r Ddinas.