Asset Publisher

30/01/2026

Prynhawn Crefftau Diwrnod Canser y Byd Felindre

I ddathlu Diwrnod Canser y Byd, mae Canolfan Ganser Felindre yn cynnal Prynhawn Crefftau a fydd yn agored i holl aelodau'r cyhoedd, a bydd Sacyr UK, y contractwr sy'n adeiladu Canolfan Ganser Newydd Felindre, yno i roi help llaw.

 

Bydd gweithdy crefftau yn cael ei gynnal yn y ganolfan. Bydd y gweithdy'n canolbwyntio ar greu bathodynnau rhuban Diwrnod Canser y Byd i godi arian ar gyfer Gwasanaeth Canser Felindre, gan gefnogi ei ymdrechion i frwydro yn erbyn canser yng Nghymru.

 

Ymunwch â ni brynhawn Llun 2 Chwefror 2026, rhwng 2pm a 4pm yng Nghanolfan Ganser Felindre am sesiwn hwyliog i gefnogi achos da.

 

Dewch i helpu i wau, gwnïo, crefftio a chreu eitemau hardd gyda'n gilydd, ac i roi help llaw i greu rhywbeth gwirioneddol arbennig, gan godi arian ar yr un pryd.

 

Lledaenwch y neges – rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi yno!