Gwaith sydd ar y gweill ar gyfer Canolfan Ganser newydd Felindre
Hoffem roi gwybod i chi y byddwn yn gweithio oriau estynedig rhwng 6:30am a 9pm ddydd Gwener 8 Tachwedd, oherwydd gwaith mawr sy'n rhan o Brosiect Canolfan Ganser newydd Felindre. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys tywallt concrit, ac mae'n hanfodol i symud y prosiect yn ei flaen.
Efallai y byddwn hefyd yn gweithio oriau estynedig am ddiwrnod ychwanegol yr wythnos nesaf i gwblhau'r gwaith mawr hwn. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y dyddiad, ewch i wefan y prosiect ddydd Mercher 13 Tachwedd lle bydd yr wybodaeth hon yn cael ei lanlwytho: newvelindre.info/cy/
Rydym yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn, ac am eich sicrhau ein bod yn rhagweld cyn lleied o effaith â phosibl oherwydd natur y gwaith. Rydym yn cymryd yr holl ragofalon angenrheidiol i sicrhau bod y gwaith yn tarfu cyn lleied â phosibl ar yr ardal gyfagos.
Diolch am eich dealltwriaeth a'ch cefnogaeth wrth i ni weithio tuag at gwblhau'r prosiect pwysig hwn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu â mi.