Asset Publisher

19/06/2024

Upcoming Notice

Rydym am roi gwybod i chi y bydd traffig y diwydiant adeiladu yn cael dechrau defnyddio’r bont newydd wrth Asda Coryton yn fuan fel rhan o’r gwaith o adeiladu’r Ganolfan Ganser Felindre newydd.

Bydd yr agoriad yn caniatáu i draffig y gwaith adeiladu fynd i mewn i'r safle yn fwy effeithlon a dylai helpu i leihau'r traffig ar y ffyrdd cyfagos.

Nid yw'r amseroedd gwaharddedig sy'n berthnasol i fynedfa'r ysbyty ar Heol y Parc/Yr Eglwys Newydd yn berthnasol i fynedfa'r bont.

Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd parhaus yn ystod y broses adeiladu a diolch i chi am eich dealltwriaeth a'ch cefnogaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu.