Asset Publisher

17/12/2024

Daeth Siôn Corn i brosiect ToyBox, diolch i gymorth gan Sacyr UK a’i is-gontractwyr

Gwisgodd aelodau staff o Sacyr UK, y contractwr sy’n adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre, eu hetiau Nadolig i helpu i chwarae rhan Siôn Corn fel rhan o fenter i helpu prosiect ToyBox.
Mae prosiect ToyBox yn fenter sy'n gofyn i gefnogwyr fynd â'u teganau diangen i fannau casglu, neu i drefnu eu hymgyrch rhoddion eu hunain, ac yna mae'n dosbarthu'r teganau i blant a allai fod heb ddim y Nadolig hwn. Mae'n gweithio gyda'r GIG, elusennau a grwpiau cymunedol i roi cynifer o deganau â phosibl a'u cadw allan o safleoedd tirlenwi.

Cynhaliodd tîm Budd Cymunedol Sacyr UK ei ymgyrch roddion ei hun, a gofynnodd i staff ac is-gontractwyr gasglu a rhoi unrhyw deganau nad oedd arnynt eu heisiau – rhywbeth a wnaethant yn eu heidiau. 
Dywedodd Katie Hathaway, Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Budd Cymunedol Sacyr UK yn y Ganolfan Ganser: “Roeddem ar ben ein digon o weld y gefnogaeth a gafwyd gan ein tîm prosiect ehangach yn Sphere Solutions Ltd, Breedon Group plc, a'n cydweithredwyr yn DENVALCO LIMITED

“Rydym wedi dangos, trwy ddod at ein gilydd a rhoi help llaw, y gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i blant na fyddent efallai wedi cael unrhyw beth y Nadolig hwn. Trwy bartneriaethau fel hyn gallwn greu dyfodol mwy disglair i’n cymuned leol.”

Diolch arbennig hefyd i Aleksandrs Novozilovs o Tredomen Ltd a gamodd i mewn brynhawn Sul i gasglu llond gwlad o deganau o wahanol leoliadau yn ei gerbyd picyp.

Ychwanegodd James Morgan, Cyfarwyddwr prosiect ToyBox: “Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a gymerodd ran, a lwyddodd i gasglu pentwr anhygoel o deganau yn gyflym i'w rhoi i blant lleol na fyddent efallai wedi cael unrhyw beth y Nadolig hwn. Mae eich ymateb cyflym a hael yn amlygu'r modd y gall cwmnïau a chymunedau ddod ynghyd mewn modd effeithlon i sicrhau nad oes yr un plentyn yn mynd heb anrheg.

“Mae prosiect Toybox yn gweithredu trwy gydol y flwyddyn, gan ddarparu teganau i gannoedd o blant bob wythnos. Mae’r weithred hon o gydymdrech nid yn unig yn dod â llawenydd i lawer o galonnau ifanc yn ystod yr ŵyl, ond hefyd yn cynnal ein cenhadaeth trwy gydol y flwyddyn. Gobeithiwn y bydd yr enghraifft ddisglair hon o waith tîm yn ysbrydoli eraill i ymuno â ni yn 2025 a thu hwnt, gan ein helpu i gyrraedd hyd yn oed mwy o blant mewn angen ac i gadw teganau allan o safleoedd tirlenwi.”