Asset Publisher

11/07/2024

Jambori Haf Cynaliadwy!

Roedden ni eisiau rhoi gwybod i chi fod Jamborî Haf Felindre yn dychwelyd yn ystod gwyliau'r ysgol! 

Bob dydd Mercher yn dechrau 24 Gorffennaf tan 28 Awst, byddwn yn cynnal hwyl am ddim i'r teulu yn Nhŷ Crwn Felindre (19 Park Road), a fydd yn cynnwys celf a chrefft, gemau rhyngweithiol a themâu cyffrous bob wythnos. 

Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn drwy’r amser, a chynghorir pawb i wisgo eli haul a dod â photel ddŵr gyda nhw :) 

Buasem yn ddiolchgar petasech yn gallu rhannu hyn gyda'ch cymuned! Mae croeso i bawb – rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi yno.