Sacyr UK yn arwain o ran STEM
Mae Sacyr UK, y contractwr sy’n adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre, wedi addysgu bron 1,300 o ddisgyblion ysgol De Cymru mewn gweithgareddau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), a hynny mewn mis yn unig.
Yn rhan o waith y cwmni ym maes gwerth cymdeithasol, mae Cydlynydd Buddion Cymunedol Sacyr UK wedi gweithio mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru, Working Options ac Addewid Caerdydd i ymweld ag ysgolion uwchradd a chyflwyno gwersi STEM.
Ymgysylltodd Sacyr UK hefyd â’r gadwyn gyflenwi sy’n cefnogi'r cwmni wrth iddo adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre i gymryd rhan yn y gwersi, ac felly ymunodd Sphere Solutions, Blue Water a Prichards â’r contractwr i gyflwyno amrywiaeth o sesiynau diddorol a difyr. Roedd y gwersi’n ymdrin â phynciau megis rhoi cipolwg ar yrfaoedd a phosibiliadau o ran gwaith yn y diwydiant adeiladu, yn ogystal â helpu gyda sgiliau cyflogadwyedd a chynnal ffug-gyfweliadau.
Dywedodd Katie Hathaway, Rheolwr Rhanddeiliaid ac Ymgysylltu Sacyr UK: “Roedd yn wych bod ein partneriaid yn y gadwyn gyflenwi yn gallu ymuno â ni yn y gwersi hyn a dangos i’r plant beth yw’r posibiliadau yn ein diwydiant, yn ogystal â’u helpu gyda’r sgiliau cyflogadwyedd y bydd arnynt eu hangen yn ystod y blynyddoedd nesaf.
“Rydym yn falch iawn o fod wedi ymgysylltu â bron 1,300 o ddisgyblion ledled y rhanbarth hwn mewn cyfnod mor fyr, ac yn gobeithio parhau â’r gwaith hwn trwy gydol tair blynedd y prosiect.”