Sacyr yn ymweld â Hosbis Plant Tŷ Hafan
Ymwelodd Joanne O’Keefe a Harrison Fairclough, o Dîm Budd Cymunedol Sacyr, â Hosbis Plant Tŷ Hafan er mwyn adolygu cynnydd â’r wal newydd o amgylch yr ardd ac i weld â’u llygaid eu hunain y gwelliannau parhaus sy’n cael eu gwneud ar y safle.
Yn ystod yr ymweliad, cawsant eu harwain o amgylch cyfleusterau’r hosbis, lle cawsant well dealltwriaeth o’r cymorth hanfodol a’r gofal eithriadol a ddarperir i blant â chyflyrau sy’n byrhau eu hoes ac i’w teuluoedd.
Roedd y daith yn cynnwys ymweliad â llety’r hosbis, sy’n cynnig amgylchedd cynnes a chefnogol i deuluoedd yn ystod eu harhosiad. Cafodd y tîm hefyd weld y cyfleusterau hydrotherapi arbenigol, gan gynnwys y pwll therapi dŵr, sy’n darparu buddion therapiwtig, a chyfle i blant ymlacio a mwynhau eu hunain mewn amgylchedd diogel a hygyrch. Yn ychwanegol at hyn, cawsant archwilio nifer o leoedd i gefnogi teuluoedd, ardaloedd synhwyraidd, a’r gerddi hardd sy’n helpu i greu awyrgylch heddychlon a chefnogol yn yr hosbis.
Prif bwrpas yr ymweliad oedd gweld y cynnydd â phrosiect wal yr ardd, sydd wedi’i dylunio er mwyn gwella preifatrwydd, diogelwch, ac edrychiad cyffredinol y mannau awyr agored. Mae’r wal wedi’i hadeiladu’n arbenigol gan is-gontractwyr Canolfan Ganser newydd Felindre, Nelco a JG Fencing, ac mae eu gwaith cywrain a’u sylw i fanylion yn amlwg ym mhobman. Bydd eu gwaith yn cyfrannu tuag at amgylchedd diogel ac atyniadol i’r plant, y teuluoedd, a’r staff sy’n defnyddio cyfleusterau awyr agored yr hosbis, gan sicrhau bod y tir o amgylch yr hosbis yn parhau’n lle croesawus a thawel i bawb sy’n ymweld â Thŷ Hafan. Chwaraeodd cwmni SGM Waste Management ran bwysig er mwyn cefnogi’r prosiect hefyd trwy glirio gwastraff yn effeithlon, gan helpu i gadw’r safle’n glir ac yn ddiogel trwy gydol y broses adeiladu.
