Asset Publisher

08/07/2026

Sacyr UK yn cefnogi Parlys yr Ymennydd Cymru cyn diwrnod o hwyl i’r teulu

Bu Tîm Budd i’r Gymuned Sacyr UK yn cefnogi Parlys yr Ymennydd Cymru yn ddiweddar wrth baratoi ar gyfer eu Diwrnod o Hwyl i’r Teulu. Bu’r tîm yn cynorthwyo â thasgau amrywiol mewn gwahanol rannau o’r ganolfan, gan gynnwys gosod baneri, byrddau a chadeiriau, a helpu i greu amgylchedd croesawus a phleserus i’r teuluoedd a oedd yn dod i’r digwyddiad. 

Yn ystod yr ymweliad, cafodd y tîm gyfle i siarad â Carwyn Williams, a rannodd wybodaeth werthfawr ynglŷn â’r gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud gan yr elusen i gefnogi plant a theuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan barlys yr ymennydd ledled Cymru. Roedd yn ysbrydoliaeth i’r tîm glywed rhagor am yr effaith gadarnhaol y mae’r sefydliad yn parhau i’w gael yn y gymuned a’r ymroddiad a ddangosir gan ei staff a’i wirfoddolwyr. 

Roedd y tîm yn falch o weld bod y pencadlys wedi cael ei drawsnewid yn ddiweddar i fod yn lle lliwgar a deniadol, yn barod ar gyfer diwrnod llawn hwyl i deuluoedd. Mae cefnogi elusennau fel Parlys yr Ymennydd Cymru yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Sacyr UK i roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau lle maen nhw’n gweithio, ac mae’r sefydliad yn falch ei fod wedi gallu chwarae rhan fach er mwyn helpu’r elusen hanfodol hon i barhau â’i gwaith gwych.