Asset Publisher

30/07/2025

Sacyr UK yn ymweld â Chyfleusterau Grŵp Porcelanosa i weld brasfodel o ffasâd allweddol yn cael ei ddatgelu

Bu i Sacyr UK, y contractwr sy'n adeiladu Canolfan Ganser Newydd Felindre, ymweld â swyddfa Cyfleusterau Grŵp Porcelanosa yn Sbaen lle cafodd brasfodel maint llawn o ffasâd ei ddatgelu am y tro cyntaf.

Roedd y brasfodel yn arddangos cyfuniad o gladin Cochwydd Ewropeaidd a Sinc Coch Pigmento, ynghyd â ffenestri ffrâm bren, a fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer tu allan y ganolfan ganser newydd. Bwriedir gosod y panel cyntaf ar y safle ym mis Hydref.

Yn ystod y garreg filltir arwyddocaol hon, bu i aelodau allweddol o Sacyr UK a White Arkitekter, sef y penseiri sy'n gweithio ar y prosiect, ymweld â'r safle i weld brasfodel maint llawn o'r ffasâd. Ymhlith yr aelodau y mae Ana M Morales o Sacyr UK, sef y pensaer a'r unigolyn sy'n gyfrifol am y ffasâd, Javier Jorba Coloma, Rheolwr Caffael tîm Sacyr, yn ogystal â Chyfarwyddwr swyddfa Llundain White Arkitekter, Michael Woodford, a Sergio Denche Mozo, pensaer a'r unigolyn o White Arkitekter sy'n gyfrifol am y ffasâd.

Mae'r defnydd o system ffasâd parod yng Nghanolfan Ganser Newydd Felindre yn amlygu ymrwymiad cryf Sacyr UK i arferion cynaliadwy a dull adeiladu modern, gyda llawer o'r broses adeiladu yn cael ei chynnal oddi ar y safle.

Dywedodd Ana Morales, Pensaer tîm Dylunio Sacyr UK, am yr ymweliad: “Roedd yn garreg filltir enfawr i ni weld y cysyniad yn dod yn fyw. Mae'r ymweliad â ffatri Porcelanosa wedi bod yn allweddol ar gyfer cymeradwyo'r sampl, a hynny mewn cydweithrediad agos â White Arkitekter.

“Mae gweithredu system ffasâd parod yng Nghanolfan Ganser Newydd Felindre yn enghraifft glir o’n hymrwymiad i gynaliadwyedd ac arloesedd, gan leihau amser adeiladu ar y safle a’r effaith amgylcheddol wrth sicrhau’r safonau ansawdd uchaf.”

Dywedodd y practis pensaernïol blaenllaw, White Arkitekter: “Mae ymweld â ffatri Porcelanosa wedi ein galluogi i werthfawrogi eu galluoedd o ran gweithgynhyrchu oddi ar y safle ac i adolygu’r dyluniad, o orffeniadau’r deunyddiau i lawr at y manylion, cyn i’r paneli gael eu cydosod ar y safle.”