Tîm Sacyr UK yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ar gyfer Llamau
Bu Carlos Acuna a Vinchenzo Nigro, arweinwyr dylunio Sacyr UK ar gyfer Canolfan Ganser Newydd Felindre, allan ar strydoedd Caerdydd ym mis Hydref i redeg hanner marathon y ddinas a chodi arian y mae mawr ei angen ar gyfer yr elusen ddigartrefedd Llamau.
Ymunodd Carlos a Vinchenzo â 29,000 o redwyr eraill i gymryd rhan yn 22ain Hanner Marathon blynyddol Caerdydd, gyda nifer o’r rheiny hefyd yn codi arian ar gyfer eu helusennau dewisol.
Diolch i’w hymdrechion egnïol, cododd deuawd dylunio Sacyr UK swm anrhydeddus o £871 mewn arian nawdd ar gyfer Llamau.
Sefydlwyd Llamau yn 1986, ac mae’n darparu tai diogel â chymorth i arddegwyr digartref a menywod agored i niwed. Mae’r elusen, sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, wedi helpu dros 100,000 o bobl ifanc, menywod a phlant sy’n profi neu’n wynebu digartrefedd.
Mae’r arian a godwyd gan Carlos a Vinchenzo yn ddigon i ariannu hyd at naw noswaith o lety diogel â chymorth i bobl ifanc neu blant gan wasanaethau Llamau, neu bron 30 o sesiynau cwnsela mewnol i helpu pobl i brosesu trawma digartrefedd.
Pan ofynnwyd iddo am y profiad, dywedodd Vincenzo: “Hwn oedd fy hanner marathon cyntaf, ac roedd gweld y llinell derfyn wedi mynd â’m gwynt, yn llythrennol. Fydda i fyth yn anghofio’r cyfuniad hwnnw o orludded, balchder, a hapusrwydd.”
Hoffai Carlos a Vincenzo ddiolch i bawb a’u nododd, ac mae tîm Canolfan Ganser Newydd Felindre Sacyr UK hefyd yn ddiolchgar iddynt am eu gwaith caled a’u hymdrechion i godi arian ar gyfer yr elusen bwysig hon yng Nghaerdydd.
