Asset Publisher

11/07/2025

Sacyr UK yn cyflogi dau brentis newydd ar safle Canolfan Ganser Newydd Felindre

Mae Sacyr UK, y contractwyr sy'n adeiladu Canolfan Ganser Newydd Felindre, wedi croesawu dau brentis newydd i'w dîm swyddfa gefn.

Mae Sam Rees, a ddaw yn wreiddiol o Abertawe ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, wedi ymuno yn rôl prentis budd i'r gymuned, ac mae Faith Evans o Gasnewydd wedi ymuno yn rôl prentis cyllid.

Bydd y ddau ohonynt yn chwarae rhan annatod yn y prosiect, gan gefnogi'r timau ar y safle a dysgu ar hyd y daith, a byddant yn mynd i Goleg Caerdydd a'r Fro gan hefyd weithio ar y safle yn yr Eglwys Newydd, nes cwblhau'r gwaith yn 2027.

Dywedodd Faith, sy'n un ar hugain oed a chanddi radd yn y gyfraith, am ei phenodiad: “Mae ymuno â thîm Cyllid Sacyr wedi bod yn brofiad wirioneddol wych hyd yn hyn. Mae pawb wedi bod yn groesawgar iawn, ac rydw i eisoes wedi dysgu llawer mewn cyfnod byr.

“Dewisais Sacyr oherwydd ei bresenoldeb byd-eang cadarn a’i ddull gweithredu blaengar — dyma’r lle delfrydol i dyfu’n broffesiynol wrth gyfrannu at brosiectau cynaliadwy, effeithiol, sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.”

Dywedodd Sam, sy'n saith ar hugain oed ac wedi graddio mewn ffilm, am ei rôl yn cefnogi tîm budd i'r gymuned Canolfan Ganser Newydd Felindre: “Rwy'n teimlo fy mod wedi cael croeso gwirioneddol i dîm o weithwyr proffesiynol medrus iawn. Mae pob diwrnod yn cynnig heriau a chyfleoedd newydd ar gyfer twf gan nad oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath hyd yn hyn, ac mae wedi bod yn llawer o hwyl.

“Rwy’n mwynhau gweithio gyda’r gymuned o amgylch safle’r prosiect yn fawr iawn, ac rwy’n edrych ymlaen at wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r ardal leol a gweithio gyda’r tîm i sicrhau bod y prosiect yn gadael gwaddol parhaus.”

Dywedodd Joanne O'Keefe, Cydgysylltydd Budd i'r Gymuned, sy'n arwain y gwaith o gyflenwi'r ddarpariaeth prentisiaid yn Sacyr UK, fod Sam a Faith eisoes wedi cael effaith fawr ers ymuno â thîm Canolfan Ganser Newydd Felindre: “Mae mor dda cael Sam a Faith yn rhan o'r tîm. Maen nhw wedi cael effaith fawr ac rwy'n gwybod y byddan nhw'n aelodau allweddol o'r tîm yn y gwaith yr ydym yn ei wneud yma yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.

“Mae eu brwdfrydedd a’u ffyrdd gwahanol o edrych ar yr heriau sy’n ein hwynebu wedi bod yn ysbrydoledig iawn hyd yn hyn, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld sut y maen nhw’n symud yn eu blaen yn y misoedd nesaf ar y prosiect.”

Mae yna nifer cyfyngedig o rolau prentisiaid yn dal i fod ar gael ar y prosiect. Peidiwch â cholli'r cyfle i gael profiad ymarferol ac adeiladu eich gyrfa gyda Sacyr UK. Gall ymgeiswyr sydd â diddordeb archwilio a gwneud cais yma: https://acorn-sacyr.dreams-lms.org/rcd/login.php