Sacyr UK yn noddi Bwrdd yng Nghinio Blynyddol CECA Cymru
Roedd Sacyr UK & Ireland, y contractwr sy'n adeiladu Canolfan Ganser Felindre, yn falch o noddi bwrdd yng Nghinio Blynyddol CECA (Cymdeithas y Contractwyr Peirianneg Sifil) Cymru eleni, a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf. Daeth y digwyddiad â sefydliadau o bob cwr o'r sector ynghyd i ddathlu peirianneg sifil yng Nghymru a chryfhau cysylltiadau yn y diwydiant.
Mae'r cinio blynyddol yn ddyddiad allweddol yng nghalendr y gymuned peirianneg sifil, gan gydnabod y cyfraniad hanfodol y mae contractwyr a'u partneriaid yn ei wneud wrth gyflawni prosiectau seilwaith ledled y wlad. Cyflwynwyd y digwyddiad gan ddarlledwr BBC Radio Wales a llysgennad Elusen Canser Syr Gareth Edwards, Eleri Siôn, a agorodd y rhaglen ag anerchiad gan Gadeirydd CECA Cymru, Ross Markwell; wedi hynny cafwyd sylwadau gan y prif noddwyr, Future Valleys, Andrew Scott Ltd, a Walters UK.
Mwynhaodd y gwesteion brynhawn o rwydweithio ynghyd â sgyrsiau am brosiectau peirianneg sifil sydd i ddod ac sy'n mynd yn eu blaen ledled Cymru. Roedd y rhaglen hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan Foundation Group, ocsiwn codi arian ar gyfer Elusen Canser Syr Gareth Edwards, ac yna i orffen cafwyd cyflwyniad gan y prif siaradwr, Ron Woodward, sef y digrifwr arobryn.
Tynnodd y digwyddiad sylw at y rôl allweddol y mae peirianneg sifil yn ei chwarae wrth gyflawni prosiectau sy'n gwella bywydau a chymunedau. Roedd Sacyr UK yn falch iawn o gael bod yn rhan o'r broses o feithrin cysylltiadau ledled y diwydiant seilwaith a dod â phobl ynghyd, ac mae'n edrych ymlaen at ddigwyddiadau a chyfleoedd yn y dyfodol.
