Asset Publisher

27/12/2025

Sacyr UK yn cynnal seremoni gosod y garreg gopa ar gyfer carreg filltir bwysig yn y gwaith adeiladu

Mae Sacyr UK, y contractwr sy'n adeiladu Canolfan Ganser Newydd Felindre, wedi dathlu cam diweddaraf y gwaith adeiladu gyda seremoni gosod y garreg gopa.

 

Nodwyd y seremoni trwy osod sbrigyn o binwydd ar bwynt uchaf yr adeilad – arwydd symbolaidd a thraddodiad adeiladu sy'n cydnabod gwaith caled ac ymroddiad pawb sy'n rhan o'r broses.

 

Ymunodd yr Aelod Senedd lleol Julie Morgan AS, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Sacyr ar gyfer y DU, Iwerddon a Gogledd Ewrop, Alejandro Mendoza Monfort, ynghyd â David Powell, Cyfarwyddwr Prosiect Prifysgol Felindre, a Carl James, Prif Weithredwr Dros Dro Ymddiriedolaeth GIG Felindre, a chynghorwyr lleol a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru ag aelodau tîm prosiect Sacyr UK i ddathlu'r garreg filltir hollbwysig hon yn y prosiect.

 

Cafodd y rhai a oedd yn bresennol hefyd anerchiad arbennig gan arwr rygbi Cymru, Jonathan ‘Jiffy’ Davies, a oedd yn bresennol i gydnabod ei waith helaeth gyda Chanolfan Ganser bresennol Felindre.

 

Yn dilyn y seremoni, gwahoddwyd y gwesteion a'r tîm adeiladu i fwynhau cinio mochyn rhost am ddim a ddarparwyd gan Sacyr UK, yn ogystal â phicau ar y man a bobwyd gan Gydlynydd Datblygu Gweithlu y Tîm Buddion Cymunedol, Hannah Jenkins.

 

Dywedodd Alejandro Mendoza Monfort, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Sacyr ar gyfer y DU, Iwerddon a Gogledd Ewrop: “Roedd yn wych bod cynifer o bobl wedi ymuno â ni ar gyfer seremoni gosod y garreg gopa ac i ddathlu’r garreg filltir hon yng ngham adeiladu Canolfan Ganser Newydd Felindre.

 

“Roedd yn ddigwyddiad arbennig cael dod ynghyd i werthfawrogi a dathlu pa mor bell y mae’r prosiect wedi dod. Mae'n wirioneddol anhygoel gweld pob dim yn dod at ei gilydd, ac roedd yn wych gweld cynifer o bobl yn bresennol i nodi'r garreg filltir gyda ni.”

 

Wrth i'r prosiect symud i'r cam adeiladu nesaf, bydd mwy o'r gwaith gosod mewnol yn dechrau, ochr yn ochr â pharatoi'r adeilad ar gyfer ei gomisiynu cyn iddo gael ei agor yng ngwanwyn 2027.