Asset Publisher

07/01/2026

Sacyr UK yn cynnal bore coffi gyda phartneriaid y prosiect i gryfhau gwerth cymdeithasol

Cynhaliodd Sacyr UK, y prif gontractwr sy'n adeiladu Canolfan Ganser Newydd Felindre, fore coffi ar gyfer ei dîm budd cymunedol a'r is-gontractwyr sy'n helpu i adeiladu'r ganolfan. Yn ystod y bore coffi, trafodwyd ymrwymiad Sacyr i werth cymdeithasol a'r effaith gadarnhaol y bydd y prosiect yn ei chael ar y gymuned.

 

Roedd cynrychiolwyr yn bresennol o blith chwe is-gontractwr sy'n gweithio ar y prosiect, gan gynnwys Nelco Radiation Shielding, Mac Scaffolding, Pacegrade, Falcon 3, a'r arbenigwyr awyru, Zitron.

 

Yn arwain y trafodaethau yr oedd Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Buddion Cymunedol Sacyr UK, Katie Hathaway, y Cydlynydd Buddion Cymunedol, Jo O'Keefe, a Chydlynydd Datblygu'r Gweithlu, Hannah Jenkins.

 

Yn rhan o'r bore, bu Sacyr UK a'i is-gontractwyr yn trafod y modd y gallant gefnogi amcanion gwerth cymdeithasol y prosiect yn fwy effeithiol a chreu syniadau newydd i helpu ac ymgysylltu â'r gymuned leol.

 

Dywedodd Cydlynydd Datblygu'r Gweithlu ar gyfer Sacyr UK, Hannah Jenkins: “Rydym yn deall pwysigrwydd gwerth cymdeithasol ac am wneud gwahaniaeth ystyrlon y tu hwnt i’r gwaith yr ydym yn ei gyflawni.

 

“Yma yn Sacyr UK, rydym wedi ymrwymo i gefnogi mentrau sy’n cryfhau’r gymuned leol, a hynny trwy greu cyfleoedd i sicrhau effaith gadarnhaol ein prosiect. Hoffem ddiolch i'r is-gontractwyr a oedd yn bresennol yn y bore coffi ac a gyfrannodd mewn modd cadarnhaol at y drafodaeth ynghylch sut y gallwn wasanaethu'r gymuned leol yn well.”