Asset Publisher

24/02/2026

Sacyr UK yn ffurfio partneriaeth â chwmni Tai Cadarn mewn rhaglen sy'n torri tir newydd

Mae datblygwr Canolfan Ganser newydd Felindre, Sacyr UK, mewn cydweithrediad arloesol â chwmni Tai Cadarn, cwmni buddiant cymunedol Invisible Walls, Academi Adeiladu ar y Safle Cyngor Caerdydd, ac SGM Waste Management yn anelu at gynnig cyfle i gyn-droseddwyr ddechrau gyrfa ym maes adeiladu.

 

Mae'r Fenter Cyflogaeth ar gyfer Cyn-droseddwyr yn rhaglen arloesol yn y diwydiant a fydd yn cynnig llety, mentoriaeth, a chyfleoedd gwaith ar safle'r Ganolfan i chwe chyn-droseddwr.

 

Mae'r rhaglen newydd hon yn rhoi cyfle allweddol i'r rheiny sy'n ceisio bywyd gwell ar ôl cael eu rhyddhau o'r carchar, gan roi iddynt yr offer y mae arnynt eu hangen i adeiladu bywyd newydd yn ystod cyfnod a all fod yn hynod gythryblus.

 

Mae'r fenter hon yn mabwysiadu dull cydweithredol, seiliedig ar dystiolaeth, o leihau aildroseddu trwy sicrhau cyflogaeth gynaliadwy, mentora sy'n ystyriol o drawma ac sy'n canolbwyntio ar gefnogaeth i deuluoedd, ynghyd ȃ datrysiadau sy'n ymwneud â thai diogel.

 

Dywedodd Kate Hathaway, y Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Buddion Cymunedol yn Sacyr UK: "Rydym yn falch iawn o gael cydweithio â chynifer o sefydliadau blaengar i allu creu cyfleoedd o'r fath i aelodau o'r gymdeithas sy'n ei chael yn fwyaf anodd."

 

"Hoffwn ddiolch i'n partneriaid am eu hymdrechion a'u hymroddiad i newid, ac edrychwn ymlaen at ddatblygu'r fenter hon ymhellach a chroesawu cyfranogwyr ar y safle cyn bo hir."