Asset Publisher

02/01/2026

Sacyr UK yn mynychu ffair swyddi i gefnogi gyrfaoedd cynhwysol

Yn ddiweddar, roedd aelodau o dîm Datblygu Cymunedol a Datblygu'r Gweithle Sacyr UK yn ffair swyddi Dydd Mawrth Porffor yng Nghanolfan Dewi Sant yng nghanol dinas Caerdydd, lle roeddent yn annog a chefnogi pobl ag anableddau i ddychwelyd i'r gwaith.


Wedi ymuno â Hannah Jenkins a Katie Hathaway o Sacyr UK yn y ffair oedd Dan Biddle, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Cyflogaeth a Chynghori Cenedlaethol ar gyfer Amrywiaeth, a threuliasant y prynhawn yn ymgysylltu â siopwyr, gan eu cyflwyno i'r cyfleoedd gyrfaol sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu, a helpu pobl sy'n cael trafferth dod o hyd i waith.


Rheolwr adeiladu oedd Dan Biddle ar ddechrau ei yrfa, cyn iddo gael ei anafu'n ddifrifol yn ymosodiadau terfysgol Llundain yn 2005. Treuliodd flwyddyn yn yr ysbyty cyn iddo allu ailadeiladu ei fywyd, ailhyfforddi i fod yn ymgynghorydd mynediad, ac ennill ei statws ar Gofrestr Genedlaethol yr Ymgynghorwyr Mynediad (NRAC) yn 2007. Mae bellach yn gweithio'n ddiflino i sicrhau mynediad at gyfleoedd gyrfaol i bobl ag anableddau, a hynny trwy ei gwmni, Nationwide Access Consultants.


Mae Sacyr UK, y contractwr sy'n adeiladu'r ganolfan newydd, Canolfan Ganser Felindre (nVCC), yn bwriadu lansio menter trwy ei Academi Cyflogaeth Mynediad i'r Anabl  (Disability Access Employment Academy), a hynny mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Cyflogaeth a Chynghori Cenedlaethol ar gyfer Amrywiaeth, er mwyn helpu a chefnogi pobl anabl i gael cyflogaeth ystyrlon, yn ogystal â darparu amgylchedd cynhwysol iddynt.


Dywedodd Katie Hathaway, y Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Buddion Cymunedol yn Sacyr UK: “Mae’n bwysig helpu’r bobl hynny sydd ag anableddau, a chreu llwybr yn ôl i’r gwaith iddynt allu adfer eu hyder a sicrhau nad yw eu cyfleoedd yn cael eu cyfyngu gan amgylchiadau.


“Roedd ffair swyddi Dydd Mawrth Porffor wedi rhoi dealltwriaeth ddyfnach i ni o'r modd y gallwn gynorthwyo pobl anabl i gael gwaith, elfen a fydd yn helpu i ddarparu sefydlogrwydd ariannol iddynt. Rydym yn edrych ymlaen at bartneru â Nationwide Access Consultants i ymgysylltu â'r bobl hyn yn y gymuned a chreu cyfleoedd ar eu cyfer.”