Asset Publisher

04/12/2025

Sacyr UK yn mynd i Ffair Swyddi I Mewn i Waith

Aeth tîm Buddion Cymunedol Sacyr UK, y prif gontractwr sy’n adeiladu Canolfan Ganser Newydd Felindre, i ffair swyddi fwyaf Caerdydd ar Faes Criced Gerddi Soffia.

 

Ochr yn ochr â dros 80 o gyflogeion eraill, treuliodd y tîm y diwrnod yn gwneud cysylltiadau ac yn ymgysylltu â’r cyhoedd – gyda nifer o’r rheiny’n chwilio am gyngor a help o ran gyrfa.

 

Roedd Sacyr UK ymhlith 20 o gwmnïau adeiladu a oedd yn bresennol yn y ffair, yn ogystal ag is-gontractwyr a sefydliadau eraill yn y sector.

 

Bu i’r Tîm Buddion Cymunedol gwrdd ag amrywiaeth o bobl, o’r rheiny a oedd yn chwilio am gyflogaeth, i drigolion lleol a oedd yn awyddus i gael gwybod am y prosiect a’i gynnydd. Roedd y Ffair wedi caniatáu i aelodau’r tîm sgwrsio mewn ffordd fwy anffurfiol, gan roi amser iddynt ledaenu ymwybyddiaeth o brosiect Canolfan Ganser Newydd Felindre, yn ogystal â’r gobaith o ychwanegu cyflogeion newydd at dîm y prosiect.

 

Roedd is-gontractwyr Canolfan Ganser Newydd Felindre, NAB a Pirchard’s, hefyd yn bresennol, ynghyd â Blue Water Recruitment a Sphere Solutions.

 

Dywedodd y Cydlynydd Buddion Cymunedol, Joanne O’Keefe: “Mae Ffair I Mewn i Waith Caerdydd yn ffordd wych i ni estyn allan i’r gymuned, gan hefyd ein galluogi i dynnu sylw at yr hyn y mae Sacyr UK wedi’i gyflawni o ran y llwybrau gyrfa sydd ar gael.

 

“Roedd yn wych cwrdd â chynifer o bobl wahanol, rhai’n gyfarwydd a rhai’n newydd, a dweud wrthynt am y gwaith yr ydym yn ei wneud a’r cyfleoedd am swyddi sydd gennym, ac y gallai’r Ganolfan eu cynnig yn y dyfodol.”