Asset Publisher

26/01/2026

Staff Sacyr yn rhoi help llaw ar gyfer y Nadolig yn y Prosiect ToyBox

Bu i Sacyr UK, y contractwr sy'n adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre, dreulio amser yn gwirfoddoli mewn elusen yng Nghaerffili ym mis Rhagfyr, a hynny'n rhan o'i addewid i gefnogi elusennau lleol dros gyfnod y Nadolig.


Mae Prosiect ToyBox, sydd wedi'i leoli yng Nghaerffili, yn un o'r elusennau y mae Sacyr UK yn ei chefnogi, ac mae'n darparu teganau newydd ac ail-law am ddim i blant o deuluoedd sy'n profi caledi ariannol.


Ymunodd aelodau o Dîm Buddion Cymunedol Sacyr UK, Jo O'keefe, Hannah Jenkins, Sam Rees, a Katie Hathaway, â chyd-weithwyr eraill Sacyr UK sy'n gweithio ar brosiect Canolfan Ganser newydd Felindre, gan gynnwys y Cydlynydd Logisteg Damian Talis, y Rheolwr Masnachol Anthony Robson, y Pensaer a'r Swyddog Technegol ar y Safle Adriana Lizeth Ramírez Hernández, yr arbenigwr Rheoli Prosiectau Andrea Toledo, a'r Pennaeth Caffael Javier Jorba Coloma, i gwrdd â Rheolwr Prosiect ToyBox, Donna Pearce O'Halloran, a groesawodd y tîm a'r cyfle i gael y gwirfoddolwyr i helpu gyda'r gweithgarwch cynyddol yn ystod tymor yr ŵyl.


Roedd tîm Sacyr UK yn canolbwyntio ar ddidoli a threfnu'r teganau i'w rhoi ar silffoedd i baratoi ar gyfer eu dosbarthu i deuluoedd mewn angen – aethant ati hefyd i brofi teganau i nodi unrhyw fatris diffygiol a sicrhau eu bod yn ddiogel.


Parhaodd y rhoddion i lifo i mewn trwy gydol y dydd, a bu'r tîm yn rheoli'r llwythi o deganau a ddaeth trwy'r drws. Bu'r tîm yn didoli dros dri bin o deganau ac yn ail-stocio llawr y siop i greu lle ar gyfer rhoddion newydd. Ar ben hyn, trefnodd isgontractwyr Sacyr, SGM Waste Management, bod cerbyd casglu sbwriel yn gwaredu teganau a oedd wedi torri neu'n ddiwerth, ac nad oedd modd eu casglu. 


Yn dilyn llwyddiant y diwrnod, ysbrydolwyd Cydlynydd Datblygu'r Gweithlu CBT, Hannah Jenkins, i wirfoddoli'n annibynnol i helpu'r Prosiect ToyBox ymhellach gyda'i ymdrechion cyflawni.

 

 

Cyd-weithwyr Sacyr UK ac Iwerddon Jo O’keefe, Hannah Jenkins, Sam Rees, Katie Hathaway, Damian Talis, Anthony Robson, Adriana Lizeth Ramírez Hernández, Andrea Toledo, a Javier Jorba Coloma, ynghyd â Donna Pearce O’Halloran o Brosiect ToyBox.