Asset Publisher

25/02/2026

Sacyr yn ennill Cyflogwr Partner Newydd y Flwyddyn yng Ngwobrau ACT Training

Mae'r prif gontractwr sy'n adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre, Sacyr UK, wedi ennill Cyflogwr Partner Newydd y Flwyddyn yng ngwobrau blynyddol ACT Training. Cafodd y cwmni ei goroni yn enillydd y wobr am ei waith ar safle'r Eglwys Newydd. Aeth aelodau o dîm Buddion Cymunedol Sacyr UK i'r digwyddiad i gasglu'r wobr. Mae'n cydnabod cyflogwyr sy'n mynd yr ail filltir i fuddsoddi yn eu staff trwy ymdrechion hyfforddi ac uwchsgilio.

 

ACT Training yw un o brif ddarparwyr hyfforddiant y DU, ac mae'n cynnal ei wobrau blynyddol i ddathlu dysgwyr rhagorol, ynghyd â'r cyflogwyr sy'n eu cefnogi. Cynhaliwyd y gwobrau ar Gampws Heol Dumballs Coleg Caerdydd a'r Fro. Daeth yr enwebwyr at ei gilydd i ddathlu a mwynhau gwledd o fwyd a band byw. Gyda chategorïau yn amrywio o Brentis y Flwyddyn i'r Busnes Newydd Gorau, cafodd entrepreneuriaid ifanc ledled y DU eu cydnabod am eu llwyddiannau a'u gwaith caled. Mae Sacyr UK hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Datblygiad Newydd Gorau MIPIM am ei waith ar Ganolfan Ganser newydd Felindre. MIPIM yw prif ŵyl eiddo ac eiddo tirol y byd, sy'n cael ei chynnal yn Cannes bob blwyddyn.