Sacyr yn gwahodd aelodau Ymddiriedolaeth Felindre i weld cynnydd eu gweithle newydd!
Fis diwethaf, ymwelodd yr Ymddiriedolaeth â staff o Sacyr UK, y contractwr sy'n adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre, i gael taith o amgylch y safle presennol.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn gyfrifol am oruchwylio'r fframwaith llywodraethu a sicrhau rheolaeth effeithiol, gan gynnwys risgiau rheoli, ac mae ei rôl allweddol yn cynnwys gwneud penderfyniadau allweddol ynghylch y gweithrediadau cyffredinol er mwyn sicrhau bod diogelwch yn cael ei gynnal i'r staff, y cleifion a'r bobl a fydd yn byw yn lleol i Ganolfan Ganser newydd Felindre.
Roedd tua 90 o aelodau’r Ymddiriedolaeth yn bresennol, gan gynnwys chwe grŵp o staff Felindre, yn amrywio o oncolegwyr i wirfoddolwyr, a rhieni plant sy’n mynychu ysgolion cyfagos, lle trafodwyd cynllun y prosiect yn ogystal â’r mentrau cymunedol y bydd Sacyr UK yn eu cefnogi.
Penderfynodd Sacyr UK gynnal yr ymweliad er mwyn tynnu sylw at elfennau cynaliadwy y prosiect, lle nid yn unig y bydd y ganolfan ganser ei hun yn amgylcheddol-ymwybodol, ond felly hefyd y prosiectau cymunedol y bydd y ganolfan yn eu cefnogi.
Wrth symud ymlaen, mae Sacyr UK yn y broses o drefnu ymweliadau ar gyfer ysgolion lleol er mwyn gwneud y disgyblion yn ymwybodol o’r prosiect ac i’w haddysgu am ei ddatblygiad.
Dywedodd Carlos Acuna, Rheolwr Dylunio prosiect Canolfan Ganser newydd Felindre: “Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i ddangos pobol o’r Ymddiriedolaeth o amgylch y safle – yn enwedig y rheiny sy’n mynd i weithio yma a byw gerllaw. Dyma fy unfed prosiect gofal iechyd ar ddeg ar hugain yn fy ngyrfa fel rheolwr dylunio, ac roedd yn wych helpu i arwain y diwrnod, yn enwedig amlygu a thrafod cynaliadwyedd yng Nghanolfan Ganser newydd Felindre. Mae'n bwysig iawn gwneud pobl yn ymwybodol o hyn, gan y bydd yn gyfle gwych i gael effaith barhaol ar y gymuned leol a chenedlaethau'r dyfodol.
“Rydym yn rhagweld y bydd ymweliad nesaf yr Ymddiriedolaeth tua diwedd yr haf neu ddechrau'r hydref pan fydd yr adeilad yn dal dŵr. Rwy’n edrych ymlaen at arddangos y cynnydd y byddwn wedi’i gyflawni erbyn hynny.”
