Gwaith sydd ar y gweill ar gyfer Canolfan Ganser newydd Felindre
Rydym am roi gwybod i chi am waith sydd ar y gweill i ddatblygu Canolfan Ganser newydd Felindre, a fydd yn digwydd y tu allan i oriau gwaith arferol.
Mae'r gwaith yn rhan o'r broses o osod y compownd parhaol, a bydd yn golygu danfon cabanau i'r prif safle. Oherwydd nad yw'r cabanau ar gael gan y gwneuthurwr ar gyfer y dyddiadau blaenorol (Awst 30 a 31) a nodwyd yn ein llythyr diweddar, mae'r dyddiadau dosbarthu newydd fel a ganlyn:
Dydd Sadwrn Medi 14-Dydd Sul Medi 15: Gosod ail lawr y compownd a fydd yn golygu cyfartaledd o 12 o gerbydau nwyddau trwm (HGV) y dydd, trwy fynedfa Coryton er mwyn ceisio tarfu cyn lleied â phosibl.
Mae'n bosibl y bydd y cerbydau ar gyfer y gwaith hwn yn achosi traffig arafach yn yr ardal. Rydym yn sylweddoli'r anghyfleustra y gallai hyn ei achosi i'n cymuned a bydd ein tîm yn sicrhau bod y gwaith yn effeithio cyn lleied â phosibl arnoch.
Hoffem roi gwybod i chi y byddwn yn gosod sgriniau cyn bo hir ar y copa dwyreiniol ger mynedfa TCAR2 (mynedfa'r safle ger Hosbis y Ddinas). Bydd hyn yn sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar bobl sy'n defnyddio'r llwybr, er y gallai rhai rhannau gael eu culhau dros dro. Mae'r gwaith wedi'i drefnu ar gyfer yr wythnos yn dechrau Medi 23 a disgwylir iddo gymryd wythnos i'w gwblhau.
Mae ein cyfarfod galw heibio rheolaidd nesaf i drigolion wedi'i drefnu ar gyfer nos Fercher 25 Medi rhwng 6pm a 7pm yn adeilad Noddfa yn 19 Park Road ger y maes parcio y tu ôl i Ganolfan Ganser Felindre. Bydd aelodau o dîm Sacyr a Felindre wrth law i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn y cyfamser, cysylltwch â ni trwy KHathaway@sacyr.com neu 07763 203360.