Asset Publisher

23/02/2026

Academi Cynhwysiant Anabledd Sacyr

Mae'r contractwr sy'n adeiladu ein Canolfan Ganser Felindre newydd, wedi cyhoeddi bod Academi Cynhwysiant Anabledd gyntaf y DU yn y maes Adeiladu wedi cael ei lansio.


Mae'r fenter, sydd wedi'i lleoli ar safle adeiladu’r CGFn ac sydd yn cael ei rhedeg gan Sacyr UK, wedi'i chynllunio i gefnogi unigolion sydd wedi bod allan o waith oherwydd anabledd, trwy ddarparu pwynt mynediad clir i'r diwydiant adeiladu.


Mae'r academi yn ymdrech gydweithredol rhwng Sacyr UK a NDEAS (National Diversity Employment and Advisory Service). Bydd y rhaglen pythefnos o hyd i ddechrau, yn rhoi cyflwyniad syml i’r sector i hyd at ddeuddeg o bobl. Ar ôl cwblhau’r rhaglen, mae o leiaf un hyfforddai yn sicr o gael swydd gyda Sacyr UK ar y prosiect CGFn.


Mae'r CGFn yn un o'r prosiectau seilwaith mwyaf yng Nghymru, ac mae wedi'i threfnu i agor yn nhymor y gwanwyn 2027. Er mwyn sicrhau bod y safle’n gynhwysol i’r holl staff, mae Sacyr UK wedi buddsoddi mewn system lifft hygyrch sy’n darparu mynediad i bob lefel o’r adeilad, gan ei wneud yn amgylchedd adeiladu cwbl hygyrch.


Dywedodd Katie Hathaway, Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Buddion Cymunedol Sacyr UK: "Gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a Llywodraeth Cymru, mae'r cydweithrediad hwn wedi ein galluogi i ddatblygu rhaglenni sy'n creu llwybrau cyflogaeth ystyrlon a chynaliadwy i bobl sydd ag anableddau. Rydym yn falch dros ben o fod yn arwain y fenter bwysig hon".


Gallwch gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais yma