Tîm Buddion Cymunedol Sacyr yn Ymweld â Tŷ Hafan i Archwilio Cyfleoedd ar gyfer Partneriaethau
Ar 10 Tachwedd, ymwelodd aelodau o Dîm Buddion Cymunedol Sacyr â Tŷ Hafan, un o brif hosbisau plant Cymru, i fynd ar daith i gael cipolwg ar y cyfleuster. Roedd yr ymweliad yn rhan o fenter barhaus Sacyr, 100 Niwrnod o Wirfoddoli, sy’n annog staff i ymgysylltu’n uniongyrchol ag elusennau a sefydliadau cymunedol lleol.
Mae Tŷ Hafan yn darparu gofal a chymorth hanfodol i blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd. Mae’r hosbis yn cynnig gofod cynnes a thosturiol lle gall teuluoedd dreulio amser gwerthfawr gyda’i gilydd, cyrchu gofal arbenigol, a chael cymorth emosiynol ac ymarferol yn ystod rhai o gyfnodau mwyaf heriol eu bywydau. Rhoddodd yr ymweliad ddealltwriaeth ddyfnach i Sacyr o’r modd y mae gwaith Tŷ Hafan yn cael effaith gadarnhaol ar deuluoedd ar hyd a lled Cymru.
Yn rhan o’r diwrnod, ymunodd Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Buddion Cymunedol Sacyr â chynrychiolwyr o Cambrai, BBI, Mitie, Wates, a Tilbury Douglas am gyfarfod Arweinwyr Busnes â Phrif Swyddog Gweithredol Tŷ Hafan, a hynny dros frecwast. Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y modd y gall y diwydiant adeiladu gefnogi elusennau’n well, yn arbennig o ran gwneud y mwyaf o werth pob prosiect adeiladu ac adnewyddu yn y dyfodol. Yn ystod y sesiwn hefyd archwiliwyd cyfleoedd i feithrin partneriaethau ffyniannus a allai wella canlyniadau ar gyfer y gymuned a chryfhau cyfleusterau ac adnoddau Tŷ Hafan.
Bu i’r drafodaeth dros frecwast gyfrannu cwpl o oriau at y fenter 100 Niwrnod o Wirfoddoli trwy drosglwyddo gwybodaeth werthfawr, gan alluogi Sacyr a phartneriaid eraill yn y diwydiant i rannu mewnwelediadau, arbenigedd, a chysylltiadau. Trwy gyfnewid syniadau, helpodd y grŵp Tŷ Hafan i archwilio’r modd y gallai fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd adeiladu yn y dyfodol a deall yn well y modd y gall cydweithredu yn y gofod gwerth cymdeithasol helpu’r elusen a busnesau lleol, fel ei gilydd, i gyflawni eu targedau o ran budd cymunedol.
Mae’r ymweliad hwn yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Sacyr i adeiladu perthnasoedd cadarn, ystyrlon â’r gymuned a sicrhau bod ei brosiectau’n cyfrannu mewn modd cadarnhaol at fywydau pobl y tu hwnt i adeiladu.
