Asset Publisher

29/11/2024

Bydded goleuni, wrth i Sacyr Corn a'r Gwasanaeth Coblynnod Gwladol gydweithio â Phorth Clinigol Cymru a'r Cyng. Marc Palmer dros dymor y Nadolig.

Roedd Acorn, Sacyr ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn falch iawn o gefnogi'r Cyng. Marc Palmer a Tomas Champ i sicrhau y gallai goleuadau'r Nadolig dywynnu'n ddisglair yn yr Eglwys Newydd yn ystod tymor gwyliau arall. 

Dywedodd Tomas, ‘Ar ran Porth Clinigol Cymru, hoffem ddymuno Nadolig Llawen iawn i Acorn, Sacyr a Felindre, a diolch iddynt am eu cefnogaeth barhaus i alluogi ein goleuadau Nadolig cymunedol gwych.’

Dywedodd Elena Castro, y Cyfarwyddwr Adeiladu sy'n adeiladu Canolfan Ganser Newydd Felindre, ‘Rydym yn deall pa mor bwysig yw'r goleuadau hyn o ran rhoi llawenydd i'r gymuned yn ystod misoedd tywyll y gaeaf, ac rydym yn ddiolchgar ein bod wedi gallu cyfrannu at eu presenoldeb unwaith eto eleni. Ar ran tîm y prosiect a'n cadwyn gyflenwi, dymunwn dymor gwyliau llawen iawn sy'n llawn ysbryd y Nadolig i breswylwyr lleol yr Eglwys Newydd!’