Cystadleuaeth “Adeiladu eich dyfodol” Sacyr
Ym mis Mehefin, lansiodd tîm Budd Cymunedol Sacyr yn y DU ac Iwerddon y gystadleuaeth gelf i Ysgolion Cynradd. Roedd y gystadleuaeth yn annog myfyrwyr o’r ardal leol i chwilio am bapur a phensel, a thynnu llun ar thema adeiladu a’r swyddi sy’n bodoli yn y diwydiant.
Cymerodd nifer o ysgolion yn ardaloedd yr Eglwys Newydd, Grangetown a Llandaf ran yn y gystadleuaeth, a’r wobr i’r ysgol fuddugol oedd gwerth £250 o gyflenwadau celf.
Er mwyn ymestyn cyrhaeddiad y gystadleuaeth a rhoi cyfle i ragor o fyfyrwyr ennill y cyflenwadau i’w hysgol, cafodd y gystadleuaeth ei hymestyn a’i hagor i glybiau hwyl yr haf.
Nid yw enw’r enillydd wedi’i gyhoeddi eto a bydd yn cael ei ddatgelu ym mis Hydref.
Rydym yn edrych ymlaen at weld beth y gall pobl ifanc yr Eglwys Newydd ei greu, ac at weld sut maent yn rhagweld dyfodol adeiladu a Chanolfan Ganser newydd Felindre.
