Sacyr ar y rhestr fer am Wobr Effaith Gymdeithasol
Cafodd Sacyr UK ei enwebu ar gyfer Gwobr Effaith Gymdeithasol Rhagoriaeth mewn Adeiladu 2026 am fod yn esiampl i eraill o ddarparu gwerth cymdeithasol trwy brosiect Canolfan Ganser newydd Felindre yng Nghaerdydd.
Mae’r prosiect wedi sicrhau canlyniadau arwyddocaol yn barod:
-
Tros 450 o gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth gynaliadwy i unigolion nad oeddent mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET), a oedd wedi bod yn ddi-waith ers tro neu a oedd dan anfantais mewn ffordd arall.
-
Mwy na 6,940 o ddisgyblion ysgol wedi cymryd rhan mewn dysgu STEM, gweithgareddau peirianneg a sesiynau yn cynnig ysbrydoliaeth ar gyfer gyrfa.
-
Darparu 455 o oriau o hyfforddiant Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant trwy’r Llwyfan Dysgu Cymunedol, gan gefnogi prentisiaethau, cyflogaeth ac addysg bellach.
-
Cefnogi 40 o grwpiau cymunedol ac elusennau trwy wirfoddoli, cyllid a chyfraniadau mewn nwyddau.
Mae Sacyr hefyd wedi hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, â menywod yn cynrychioli 30% o dîm rheoli’r prosiect, sy’n sylweddol uwch na chyfartaledd y diwydiant, a gweithwyr yn hanu o fwy nag 14 o wledydd, i gyd yn cyfrannu tuag at weithle amrywiol a chynhwysol.
Mae cynlluniau arloesol, gan gynnwys yr Academïau Mynediad i Bobl Anabl a Rhaglen Gyflogaeth ar gyfer Cyn-droseddwyr, wedi creu cyfleoedd ar gyfer grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, gan fynd i’r afael â phrinder sgiliau wrth hybu symudedd cymdeithasol a lleihau rhwystrau sy’n atal cyflogaeth.
Gan weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, ACORN, partneriaid yn y gadwyn gyflenwi a rhanddeiliaid cymunedol, mae Sacyr wedi gweithredu Fframwaith Llywodraethiant Gwerth Cymdeithasol cynhwysfawr a Chynllun Cyflawni EFFAITH er mwyn sicrhau bod gwerth cymdeithasol yn cael ei reoli â’r un ddisgyblaeth ag iechyd diogelwch, ansawdd a pherfformiad rhaglenni.
Mae’r enwebiad hwn yn cydnabod ymrwymiad Sacyr i ymwreiddio effaith gymdeithasol ym mhob agwedd ar gyflawni prosiect, gan greu buddion parhaol i’r gymuned leol, y gweithlu a’r gymdeithas ehangach.
