Lleihau Gwastraff, Adeiladu Cymunedau: Sacyr UK yn Cefnogi Menter Leol i Rannu Offer
Mae Sacyr UK, consortiwm ACORN, ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, y bartneriaeth sy’n adeiladu Canolfan Ganser Newydd Felindre, wedi mynd ati’n swyddogol i roi gwerth miloedd o bunnoedd o offer yn rhodd i Lyfrgell Offer Benthyg.
Mae’r Llyfrgell Offer yn gyfleuster a fydd yn cynnig cyfle i bobl leol a grwpiau cymunedol fenthyg yn hytrach na phrynu amrywiaeth o offer. Dros gyfnod o ddeuddydd, cafodd set gyfan o offer newydd sbon ei rhoddi a’i chyflenwi i gefnogi Llyfrgell Offer Benthyg. Darparodd Sacyr UK ddewis llawn o eitemau, yn cynnwys offer llaw ac offer pŵer, cyfarpar diogelwch, a chitiau gardd. Cyflenwyd cyfanswm o ddeg set o bob offeryn, a oedd yn cynnwys driliau combi, setiau gyrwyr, llifiau llaw, setiau o eingiau, bagiau offer, tapiau mesur, a chyfarpar diogelu personol hanfodol megis menig, gogls, a sbectol diogelwch.
Gwahoddir pobl o bob rhan o Dde-ddwyrain Cymru i fenthyca offer ar gyfer prosiectau DIY ac i gymryd rhan yn ymdrechion y prosiect i hyrwyddo economi gylchol gynaliadwy. Yn ogystal â’r rhoddion hael hyn, rhoddwyd rhodd ariannol bellach i ddarparu mynediad rhad ac am ddim at offer ar gyfer y 250 o fenthyciadau cyntaf yn ACE Benthyg yn Dusty Forge, Trelái, Caerdydd, a hynny i helpu pobl leol a grwpiau cymunedol i wella gofodau mewnol ac allanol, fel ei gilydd.
“Gyda rhoddion Sacyr, gall ein llyfrgelloedd o bethau roi mwy o offer yn nwylo pobl – gan ei gwneud yn haws mynd i’r afael â thasgau DIY, gwelliannau i’r cartref, ac atgyweiriadau heb y costau uchel o brynu rhai newydd.” – Benthyg Cymru
Diolch i gefnogaeth Rugbi Industry Supplies a Draper Tools, gall y rheiny sydd am ddefnyddio’r llyfrgell gael mynediad iddi trwy wefan Benthyg, a byddant wedyn yn gallu cael benthyg y citiau offer a ddarparwyd, yn ogystal â chael mynediad llawn at gyfarwyddiadau trwy wefan Benthyg.
Dywedodd Katie Hathaway, y Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Buddion Cymunedol yn Sacyr UK: “Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn gyfrannu at greu gwell amgylcheddau lle rydych yn byw, yn gweithio ac yn treulio amser hamdden. Credwn fod pawb yn haeddu ymfalchïo yn yr hyn sydd o’u cwmpas, ac mae’r rhaglen hon yn cynrychioli cam bach ond ystyrlon tuag at greu effaith gadarnhaol yn ein cymunedau.” I gofrestru eich diddordeb i ddefnyddio Llyfrgell Offer, ewch i: Benthyg – Hafan
I gofrestru eich diddordeb i ddefnyddio Llyfrgell Offer, ewch i: Benthyg – Hafan
