Gwerthu calendrau Ray of Light yng Nghanolfan Ganser Newydd Felindre
Mae Sacyr UK, y prif gontractwr y tu ôl i Ganolfan Ganser Newydd Felindre, wedi partneru â'r elusen leol Ray of Light, sef elusen yng Nghaerdydd sy'n cefnogi pobl â chanser, i godi arian y mae mawr ei angen trwy gefnogi gwerthiant calendr 2026.
Mae Ray of Light yn cynhyrchu calendrau ffotograffau bob Nadolig, sy'n cynnwys delweddau trawiadol o natur a dynnwyd gan ei aelodau a'i gleientiaid. Roedd y celfyddydwaith a'r gofal a fuddsoddwyd yn y prosiect gan aelodau staff a chleifion, fel ei gilydd, wedi creu argraff dda ar aelodau Tîm Budd Cymunedol Sacyr UK, felly addawon nhw helpu cymaint â phosibl a mynd â chynifer o galendrau ag y gallent eu cario 'nôl i safle'r Ganolfan. Y targed oedd gwerthu pob un cyn cau'r safle dros y Nadolig.
Yn ffodus, nid oedd angen llawer o ymdrech oherwydd cafodd y calendrau eu prynu ymhen ychydig ddiwrnodau gan weithwyr hael ar draws y safle, gan godi dros £100 i'r elusen leol.
Bydd Sacyr UK yn parhau i gefnogi achosion lleol tebyg i Ray of Light, sy'n gweithio'n ddiflino i helpu pobl sy'n profi rhai o'r cyfnodau anoddaf yn eu bywydau.
