Sacyr UK yn cyflwyno rhywfaint o hwyl y Nadolig
Bu aelodau tîm Buddion Cymunedol Sacyr UK, y contractwr sy'n adeiladu Canolfan Ganser Newydd Felindre, yn ymweld â Ffederasiwn Pear Tree yn Ysgol Gynradd Coryton yng Nghaerdydd i roi rhodd o 50 o galendrau adfent.
Cafodd y calendrau adfent eu rhoi, mewn partneriaeth â'r prif wneuthurwr drysau a ffenestri alwminiwm Denval Ltd, i bantri'r Ffederasiwn, a fydd wedyn yn eu rhoi i deuluoedd sy'n ei chael yn anodd cael deupen llinyn ynghyd y Nadolig hwn, gan alluogi'r plant hynny i gael calendr adfent o hyd i gyfrif y dyddiad tan ddydd Nadolig.
Mae Ffederasiwn Pear Tree yn fenter a sefydlwyd i gefnogi Ysgolion Cynradd Tongwynlais a Choryton.
Wrth sôn am y fenter, dywedodd Kate Hathaway, Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Gwerth Cymdeithasol Sacyr UK: “Mae gwerth cymdeithasol wrth wraidd popeth a wnawn yma yn Sacyr UK, ac felly mae gallu rhoi'r calendrau adfent hyn i deuluoedd na fyddai, o bosibl, yn gallu fforddio prynu rhai i'w plant y Nadolig hwn yn gweddu i'n hethos yn berffaith.
“Gall gwneud pethau bychain fel hyn wneud gwahaniaeth enfawr i'r rheiny a fyddai efallai yn byw heb, ac felly roedd yn bleser gweithio gyda Ffederasiwn Pear Tree a Denval wrth drefnu'r rhodd hon”.