Asset Publisher

30/06/2025

Yn falch iawn o rannu stori arall am lwyddiant i nodi blwyddyn ers i ddyn lleol cael ei gyflogi i weithio ar y prosiect

Mae Sacyr UK, sef y contractwr sy'n adeiladu Canolfan Ganser Newydd Felindre, yn falch iawn o rannu stori arall am lwyddiant i nodi blwyddyn ers i ddyn lleol cael ei gyflogi i weithio ar y prosiect.

Mae Josh, sy'n 32 oed ac o Gaerdydd, yn cael ei gyflogi yn rôl Goruchwyliwr Glanhau lle mae'n rheoli tîm bach o bum glanhawr ar safle Canolfan Ganser Newydd Felindre. Ar ôl bod yn ddi-waith ers 2023, cafodd Josh ei atgyfeirio i gynllun People Plus Restart, sy'n helpu pobl sy'n ddi-waith hirdymor i ddechrau gweithio trwy ddarparu cymorth cyflogaeth, o hyfforddiant sgiliau i baratoi ar gyfer cyfweliadau.

Ar ôl iddo gael ei atgyfeirio, cafodd ei nodi'n ymgeisydd addas ar gyfer swydd lanhau hirdymor gyda Sacyr UK, a dechreuodd ar ei waith ym mis Ebrill 2024. Yn ystod chwe mis cyntaf ei rôl newydd, gwnaeth Josh argraff ar y tîm gyda'i ymrwymiad, ac amlygodd botensial gwych o ran arweinyddiaeth trwy ei wybodaeth a'i sgiliau o ganlyniad i'w gefndir ym meysydd gweithgynhyrchu a glanhau.

Yn dilyn hyn, cafodd Josh gynnig dyrchafiad i fod yn Oruchwyliwr Glanhau, ac ym mis Ionawr 2025 dyfarnwyd y wobr aur iddo am ei ymrwymiad i'r prosiect, ar ôl iddo gael ei enwebu gan ei gyfoedion.

Wrth sôn am ei rôl, dywedodd Josh: “Rwy’n ddiolchgar iawn i People Plus Restart a Sacyr UK am fy helpu i ddychwelyd i gyflogaeth ar ôl bod yn ddi-waith ers 2023. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd y rhan fwyaf o'r rolau a ddechreuais yn aseiniadau byrdymor trwy asiantaeth, a oedd yn anodd, yn enwedig wrth geisio cynnal teulu ifanc. 'Nawr mae gen i sefydlogrwydd a sicrwydd rôl hirdymor gyda Sacyr UK, felly mae pwysau enfawr wedi cael ei godi.”

Dywedodd Katie Hathaway, Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Budd i'r Gymuned Sacyr UK yng Nghanolfan Ganser Newydd Felindre: “Mae cynorthwyo Josh ar ei daith yn ôl i gyflogaeth lawn-amser yn rhywbeth sydd wedi rhoi llawer o foddhad, ac mae'n gaffaeliad mawr i Sacyr UK. Mae ei wybodaeth a'i sgiliau yn ei waith o ddydd i ddydd yn ei wneud yn aelod gwerthfawr o'r tîm, ynghyd â'i agwedd benderfynol a'i ddibynadwyedd. Rydym wrth ein bodd o fod wedi gweithio gyda People Plus Restart i gynorthwyo Josh i ddod o hyd i sefydlogrwydd unwaith eto.”