Gardd 'Believe' i'w hadeiladu i feithrin ymwybyddiaeth o roi organau
Bydd gardd goffa yn cael ei hadeiladu ym Mynwent y Gogledd yng Nghaerdydd i nodi deng mlynedd ers cyflwyno Deddf Trawsblannu Dynol Cymru.
Bydd yr ardd, a gaiff ei hadeiladu gan yr elusen rhoi organau Believe Organ Donation Support (ODS), yn fan lle y gall pobl ddangos eu parch, diolch i'r rhai sydd wedi cyfrannu cymaint trwy roi organau, a bod yn ardal i addysgu pobl ynghylch rhoi organau, gan sicrhau na ystyrir bod rhoi organau yn bwnc tabŵ. Bydd yr ardd, y bwriedir ei hagor ym mis Rhagfyr eleni, yn cynnwys cerrig coffa unigol i gofio'r rhai sydd wedi rhoi organau, ochr yn ochr ag adnoddau addysgol a chyfeirio at elusennau eraill.
Bydd hefyd yn lle i goffáu pasio'r Ddeddf Trawsblannu Dynol lle tybir bod yna gydsyniad i roi organau oni bai bod unigolyn wedi optio allan, a ddaeth i rym yn 2015.
Mae'r cynllun wedi cael ei arwain gan yr elusen Believe ODS, a sefydlwyd yn 2015 gan Anna-Louise Bates yn dilyn y ddamwain ffordd angheuol pan fu farw ei gŵr a'i mab, Stuart a Fraser Bates, dim ond 5 diwrnod ar ôl y Ddeddf. Nod Believe ODS yw dileu'r stigma sy'n gysylltiedig â rhoi organau a meithrin ymwybyddiaeth o'r mater, ac annog pobl a theuluoedd i roi eu horganau.
Dywedodd Anna-Louise Bates, sylfaenydd Believe ODS: “Pan fu farw fy mab, trwy roi ei organau cafodd pedwar person ail gyfle i fyw eu bywydau. Mae pedwar unigolyn yn fyw heddiw o'i herwydd. Dw i'n meddwl bod hynny'n anhygoel. Dyna pam y sefydlais Believe ODS gan fy mod am feithrin ymwybyddiaeth o'r achos pwysig hwn a chwalu mythau a chamddealltwriaethau ynghylch rhoi organau.
“Mae cael gardd fel hon i eistedd, cofio a diolch yn bwysig er mwyn y rhai yr ydym wedi’u colli ac sy’n dal yn fyw diolch i’r system rhoi organau. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sy'n ein cynorthwyo i gyflawni'r cynllun hwn.”
Bydd yr ardd hefyd yn cynnwys wal llofnodion ac olion dwylo enwogion sy'n cefnogi'r prosiect gan gynnwys Bear Grylls, Sophie Ingle, Mark Lewis Jones ac Aaron Ramsey.
Mae gwirfoddolwyr brwdfrydig o gonsortiwm Acorn sydd y tu ôl i brosiect Canolfan Ganser Newydd Felindre, ynghyd â'r contractwr dynodedig Sacyr UK ac Iwerddon, yn cefnogi Believe ODS i gyflawni'r cynllun. Maent yn defnyddio eu diwrnodau gwirfoddoli yn rhan o raglen Cymunedau sy'n Ffynnu i wireddu hyn ochr yn ochr â chontractwr y gwaith tir, sef Tredomen Ltd, sy'n dechrau gweithio ar yr ardd ddechrau mis Awst.
Dywedodd Nicola Easdale o Tredomen Ltd fod y cwmni wrth ei fodd yn gweithio ar y prosiect gydag Anna a Believe ODS: "Gyda'n profiad helaeth yn y maes hwn, rydym yn awyddus i gyfrannu at y fenter ystyrlon hon ac anrhydeddu'r elusen a'r rhoddwyr sydd wedi ei gwneud yn bosibl. Mae'r angerdd sy'n gyrru'r prosiect hwn yn ein hysbrydoli, ac rydym yn llawn cyffro ynghylch addysgu eraill am bwysigrwydd rhoi organau trwy ein gwaith."
Mae'r contractwyr Enviromesh hefyd wedi ymrwymo i gefnogi'r prosiect ac mae MS Group hefyd yn helpu trwy greu dyluniad 3D ar gyfer yr ardd, a fydd ar gael i'w weld gan ddefnyddio cod QR, yn ogystal â helpu i greu wal enwogrwydd o'r rhai sy'n cefnogi rhoi organau.
Yn ddiweddar, cyfarfu Anna-Louise Bates, Katie Hathaway o Sacyr UK, y Cynghorydd John Lancaster o Lys-faen a'r Ddraenen, Beth Baldwin, Ymddiriedolwr Believe ODS, Simon Morgan, Prif Swyddog Gweithredol MS Group, a Geraint Rees o Wasanaethau Profedigaeth Cyngor Caerdydd, i drafod y cynllun arfaethedig i adeiladu gardd 'Believe', gwasanaeth coffa i roddwyr blaenorol, ac amserlen y gwaith adeiladu.
Dywedodd Katie Hathaway, Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Budd Cymunedol Sacyr UK ar gyfer Canolfan Ganser Newydd Felindre: “Braint yw cefnogi'r cynllun i greu’r ardd i helpu i feithrin ymwybyddiaeth o achos mor bwysig. Nid yn unig y mae'n deyrnged i'r rhai sydd wedi cael rhodd o fywyd ar ôl i unigolion roi organau, ond mae hefyd yn neges bwerus i'n hatgoffa o'r bywydau a newidiwyd am byth gan eu haelioni.”
Mae tîm Gwasanaethau Profedigaeth Cyngor Caerdydd wedi gosod amserlen ar gyfer clirio'r tir yn y cyfnod cyn adeiladu'r ardd. Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd sydd â chyfrifoldeb am y Gwasanaeth Profedigaeth, y Cynghorydd Norma Mackie: “Mae’n hyfryd bod yn rhan o’r prosiect hwn. Mae’r cyfleoedd addysgol o amgylch yr ardd yn bellgyrhaeddol iawn ac mae ein tîm Gwasanaethau Profedigaeth yn falch o allu cynnig cartref i'r ardd ym Mynwent y Gogledd.”
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Kath Chadwick yn Front Door Communications ar 029 20 020360 neu anfonwch neges e-bost i knock.knock@fdcomms.co.uk
