Asset Publisher

18/12/2025

Canolfan Ganser Felindre Newydd – Amseroedd Cau y Safle dros Gyfnod y Nadolig 2025

Bydd safle adeiladu newydd y Ganolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd ar gau dros gyfnod y Nadolig, o ddydd Mercher 24 Rhagfyr 2025 tan ddydd Sul 4 Ionawr 2026.


Bydd y gweithgareddau adeiladu arferol yn ailddechrau ar ddydd Llun, 5 Ionawr 2026.

                                          
Pwyntiau allweddol ar gyfer y cyfnod hwn: 
•    Bydd yr holl waith adeiladu yn gorffen erbyn dydd Mawrth 23 Rhagfyr.
•    Mae mesurau diogelwch ar y safle yn cynnwys diogelu offer, deunyddiau, peiriannau, sgaffaldiau a gwaith dros dro.
•    Bydd diogelwch yn cael ei gynnal drwy gydol y cyfnod cau.
•    Mae protocolau brys yn parhau ar waith.


Ar ran Tîm y Prosiect, hoffem ddymuno Nadolig Llawen iawn a blwyddyn newydd dda i chi gyd.