Asset Publisher

03/07/2025

Hysbysiad i breswylwyr

Rydym am roi gwybod i chi y bydd ein tîm adeiladu yn dechrau gweithio'n gynharach nag arfer ddydd Gwener 4 Gorffennaf.

Mae gwaith tywallt concrit wedi'i drefnu i ddechrau am 7:00 y bore, a bydd rhai gweithgareddau paratoadol yn dechrau o 6:00 y bore.


Bydd y tîm adeiladu yn sicrhau bod cyn lleied o sŵn ac aflonyddwch â phosibl yn ystod yr oriau cynharach hyn. Bwriad hyn yw lleihau effaith symudiadau cerbydau adeiladu ar y gymuned, a chefnogi mesurau rheoli traffig disgwyliedig a fydd ar waith ar gyfer digwyddiadau diwylliannol sy'n cael eu cynnal dros y penwythnos.


Os bydd gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â'r tîm ar y rhifau isod:

Yn ystod oriau gwaith (8am-5pm): Katie Hathaway, khathaway@sacyr.com – 07763 203360

Ar ôl oriau gwaith: ffôn symudol y safle – 033 03414863


Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi, a gwerthfawrogwn eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn.

Diolch i chi am eich amynedd.