Ngwobrau Dylunio Gofal Iechyd Ewropeaidd 2023
Enillodd Canolfan Ganser newydd Felindre y dyfarniad “enillydd cyffredinol” yn y categori “Prosiect Gofal Iechyd y Dyfodol” yng Ngwobrau Dylunio Gofal Iechyd Ewropeaidd 2023. Trefnir y gwobrau gan SALUS Global Knowledge Exchange ac Architects for Health. Mae'r gwobrau ymhlith y gwobrau pensaernïaeth rhyngwladol mwyaf mawreddog ym maes pensaernïaeth gofal iechyd, ac yn cydnabod rhagoriaeth broffesiynol ac ymchwil wrth ddylunio amgylcheddau gofal iechyd ledled y byd.